** Gweithiau Hanfodol yn Amgueddfa Sir Gâr **
Noder y bydd orielau llawr gwaelod Amgueddfa Sir Gâr, gan gynnwys mynediad lifft, ar gau dros dro am sawl wythnos tra bod rhywfaint o waith cadwraeth hanfodol yn digwydd o fewn yr adeilad.
Yn ystod yr amser hwn, dim ond mynediad i orielau'r llawr cyntaf sydd ar gael, a fydd trwy risiau yn unig. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi a diolch am eich dealltwriaeth wrth i ni ofalu am yr adeilad hanesyddol hwn.
Dyma'r cam cyntaf yn ein prosiect i drawsnewid tair oriel yn fannau arddangos newydd bywiog. Rydym yn gyffrous i ddangos y newidiadau i chi unwaith y bydd y gwaith hwn wedi'i orffen.
Croeso i CofGâr
Rydym yn deulu o bum amgueddfa yn Sir Gaerfyrddin. Rydym yn cynrychioli gwasanaeth amgueddfeydd a chelfyddydau Cyngor Sir Gâr ac rydym yn gyffrous i'ch croesawu i'n lleoliadau gwych.
Eisiau gwybod am amgueddfeydd CofGâr? Cliciwch ar ein lleoliadau ar waelod y dudalen am oriau agor, gwybodaeth i ymwelwyr a mwy.
Oriau Agor
Iau-Sul, 10yb-4:30yp
01267 224611
Mercher-Sul, 10yb-3:30yp
01554 742220
Mawrth-Sul, 10yb-4yp
01267 228696
Iau-Llun, 10:30yb-3yp
01994 427420
Ein Safleoedd
Amgueddfa Sir Gâr
Cartref Dylan Thomas
Archwiliwch gartref olaf eiconig Dylan Thomas yn y Cartref—sy'n edrych dros aber Tâf yn Nhalacharn—sydd bellach yn amgueddfa CofGâr gydag arddangosfeydd dilys, ystafell de, siop anrhegion, a'i sied ysgrifennu enwog.
Amgueddfa Parc Howard
Darganfyddwch straeon am orffennol diwydiannol Llanelli yng nghalon y dref, yn ogystal â’i chasgliad enfawr o grochenwaith enwog o’r ardal.
Amgueddfa Cyflymder
Dewch i ddarganfod y profiad newydd sbon yma sy’n addas i deuluoedd ac sy’n adrodd hanes Traeth Pentywyn a’r recordiau cyflymder eiconig a gafodd eu gosod yno
Gwaith Tunplat Cydweli
Yn enwog am ei chastell lleol, mae Cydweli hefyd yn gartref i weithfeydd tunplat hynaf Ewrop. Er bod yr Amgueddfa ar gau i'r cyhoedd ar hyn o bryd, gallwch chi gael newyddion am ddatblygiad y lle hanesyddol hwn yma.