Amdani â'r Cartref
Ein Stori
Mae'r Cartref (a'r Sied Ysgrifennu) Dylan Thomas oedd cartref olaf bardd enwocaf Cymru, Dylan Thomas, a fu'n byw yma gyda'i deulu am bedair blynedd rhwng 1949 a 1953. Wedi'i leoli ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, a hynny'n agos i ganol tref Talacharn, dyma'r lle y cwblhaodd Dylan rai o'i weithiau enwocaf. Mae'n bosibl bod 'Dan Y Wenallt' wedi'i ysbrydoli gan Dalacharn a'i chymeriadau lliwgar.
Mae'r Cartref yn cael ei rentu i Gyngor Sir Caerfyrddin gan Gorfforaeth Talacharn ar brydles 999 mlynedd am rent nominal. Wedi'i adeiladu yn nechrau'r 19eg ganrif, cafodd y Cartref ei reoli gan Wasanaeth Celfyddydau'r Cyngor o 1988 ymlaen, nes iddo ymuno â theulu CofGâr yn 2023. Fel aelod gwerthfawr o'n teulu, rydym bellach yn gweithio i sicrhau achrediad amgueddfa iddo am y tro cyntaf yn ei hanes, gan roi statws cyfartal iddo â'r amgueddfeydd eraill sydd yn ein gofal ac sy'n agored i'r cyhoedd.

