Llogi
"Yr unig eiriau y gallaf eu defnyddio i ddisgrifio fy mhriodas yng Nghartref Dylan Thomas yw hudolus, rhyfeddol ac cofwy. Roedd staff ac gwirfoddolwyr yr amgueddfa yn ein trin ni fel teulu, roedd y lleoliad yn hollol hyfryd – boed hi'n bwrw glaw neu'n braf – ac yn iadonest, ni allaf eu hargymell yn ddigon brwdfrydig."
Megan, Mehefin 2025
Mae CofGâr yn cynnig pump o'r lleoliadau harddaf, mwyaf swynol a hanesyddol yn Sir Gâr ac yng Nghymru gyfan.
P'un a ydych yn trefnu priodas, cynhadledd neu ddathliad preifat, bydd yr amgueddfeydd sydd dan ein gofal yn cynnig y cyfuniad perffaith o gynhesrwydd, unigrywiaeth ac ymdeimlad o le i wneud eich profiad yn un unigryw ac anghofiadwy.
Gyda detholiad o fannau hanesyddol a chyfoes, rydym yma i'ch helpu i greu atgofion sydd mor hudolus ag y maent yn ystyrlon.
Dewch i ni greu hanes gyda'n gilydd yn CofGâr, lle mae eich digwyddiad yn dod yn rhan o'n stori ni.
Yr hyn rydym yn ei gynnig
Gallwn ddarparu ar gyfer pob math o ddigwyddiadau yn ein lleoliadau; dyma rai syniadau.

Llogi ar gyfer Priodasau a Dathliadau
Dywedwch “Rwy'n gwneud” yn un o leoliadau hudolus CofGâr, lle mae hanes a rhamant yn dod at ei gilydd i greu lleoliad wirioneddol fythgofiadwy.

Llogi Corfforaethol
Camwch i ffwrdd oddi wrth y cyffredin ac ysbrydolwch eich tîm neu'ch cleientiaid gyda digwyddiad corfforaethol yn CofGâr.

Llogi Preifat
Boed yn swper soffistigedig, yn dderbyniad diodydd bywiog neu hyd yn oed yn barti pen-blwydd, mae lleoliadau unigryw CofGâr yn cynnig cefndir ysbrydoledig ar gyfer eich digwyddiad nesaf.

Llogi ar gyfer Grwpiau Cymunedol
Darganfyddwch y lleoliad perffaith ar gyfer cyfarfodydd eich grŵp cymunedol gyda CofGâr.

Llogi Oriel Arddangos
Mae amgueddfeydd CofGâr yn cynnig mannau ysbrydoledig i artistiaid, sefydliadau a grwpiau cymunedol arddangos eu gwaith mewn lleoliadau unigryw a hanesyddol.

Llogi ar gyfer Ffilmio a Ffotograffiaeth
Mynnwch y saethiad perffaith neu crëwch olygfeydd bythgofiadwy yn lleoliadau unigryw ac ysbrydoledig CofGâr. O swyn hanesyddol i geinder modern, mae ein lleoliadau yn cynnig cefndiroedd syfrdanol ar gyfer eich holl anghenion ffilmio a ffotograffiaeth.









