Llogi ar gyfer Grwpiau Cymunedol
Darganfyddwch y lleoliad perffaith ar gyfer cyfarfodydd eich grŵp cymunedol gyda CofGâr. P'un a ydych yn cynnal gweithdai, cyfarfodydd, digwyddiadau diwylliannol neu gynulliadau cymdeithasol, mae ein mannau unigryw ac ysbrydoledig yn cynnig y lleoliad delfrydol i gysylltu, cydweithio a dathlu.
Amgueddfa Sir Gâr

Cynheliwch eich cyfarfod cymunedol nesaf yn Amgueddfa Sir Gâr, lleoliad sy'n llawn hanes a swyn. Wedi'i leoli yn yr Hen Balas yr Esgob, mae'r amgueddfa'n cynnig mannau unigryw fel Llyfrgell yr Esgob gyda'i phaneli derw a'i cherfiadau godidog yn arddull y Mudiad Celf a Chrefft. Yn berffaith ar gyfer cyfarfodydd bach, sesiynau addysgol neu ddigwyddiadau cymdeithasol, mae'r llyfrgell yn cynnig awyrgylch heddychlon a hanesyddol sy'n meithrin ymdeimlad o gysylltiad a diben cyffredin.
Cartref Dylan Thomas
Mae Cartref Dylan Thomas yn cynnig lleoliad barddonol a heddychlon ar gyfer cyfarfodydd grwpiau cymunedol. Gyda golygfeydd dros aber Afon Taf, mae'r lleoliad hanesyddol hwn yn cynnig mannau clyd sy'n berffaith ar gyfer gweithdai bach, sesiynau creadigol neu ddigwyddiadau diwylliannol. Gyda mynediad i'r Sied Ysgrifennu eiconig a'r patio awyr agored, gall eich grŵp fwynhau awyrgylch unigryw sy'n llawn hanes llenyddol a harddwch naturiol, gan greu profiad bythgofiadwy i bawb sy'n cymryd rhan.

Amgueddfa Cyflymder

Dewch â'ch grŵp cymunedol ynghyd yn Amgueddfa Cyflymder – lleoliad deinamig ac ysbrydoledig sy'n edrych dros Draeth eiconig Pentywyn. Gyda'i ddyluniad modern, ei Ystafell Ddigwyddiadau eang a'i gyfleusterau o'r radd flaenaf, mae'r lleoliad hwn yn berffaith ar gyfer gweithdai, cyfarfodydd neu gynulliadau cymdeithasol. Mae'r golygfeydd syfrdanol o'r traeth saith milltir o hyd yn creu lleoliad unigryw a fydd yn ysbrydoli creadigrwydd a chysylltiad, gan ei wneud yn ddewis eithriadol ar gyfer unrhyw ddigwyddiad cymunedol.
Amgueddfa Parc Howard
Wedi'i leoli mewn parc godidog, mae Amgueddfa Parc Howard yn cynnig lleoliad croesawgar a chain i grwpiau cymunedol. Mae ei hystafelloedd amlbwrpas, gan gynnwys Ystafell James Buckley a'r Brif Neuadd, yn cynnig trefniadau hyblyg ar gyfer cyfarfodydd, gweithdai a digwyddiadau diwylliannol. Mae swyn Fictoraidd yr amgueddfa, ynghyd â chyfleusterau modern a golygfeydd hardd o'r gerddi cyfagos, yn sicrhau lleoliad cyfforddus ac ysbrydoledig i'ch grŵp gyfarfod, cydweithio neu ddathlu.

Archebwch eich profiad grŵp cymunedol nawr
Mae archebu digwyddiad ar gyfer eich grŵp cymunedol gyda CofGâr yn golygu eich bod mewn dwylo diogel. Mae gofal a sylw yn rhan o'n natur. Fel gwasanaeth amgueddfeydd ac celfyddydau lleol mwyaf uchelgeisiol Cymru, ein nod yw darparu profiad rhagorol i'n holl ymwelwyr.
Mae archebu gyda ni hefyd yn golygu eich bod yn cefnogi gwaith pwysig CofGâr o ran diogelu, cyflwyno a datblygu stori Sir Gaerfyrddin. Ein stori ni yw stori Cymru, o ffermio i lên gwerin, ac o gloddio am lo i fyd moduro.
Mae incwm o logi lleoliadau ar gyfer digwyddiadau yn hanfodol i ni. Mae'r gefnogaeth hael a gawn gan Gyngor Sir Caerfyrddin yn ein helpu i ddiogelu eich treftadaeth. Ond ni allwn hyrwyddo eich treftadaeth drwy raglenni dysgu a digwyddiadau heb eich cefnogaeth chi. Po fwyaf y byddwch yn ein cefnogi drwy archebion, y mwyaf y gallwn rannu stori Sir Gaerfyrddin â'r byd, ysbrydoli ein dyfeiswyr nesaf a llunio ein hadroddwyr straeon nesaf.
I archebu lle neu i ddysgu mwy am yr opsiynau llogi, cysylltwch â'n tîm. Llenwch y ffurflen isod, anfonwch e-bost atom yn cofgar@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 228696. Gadewch i ni ddod â'ch dathliadau'n fyw!
