Skip to content

Cefnogwch ni

Two cuddly toy otters on a window sill. One larger otter cradles the smaller one on its stomach.

Helpwch ni i gadw stori Sir Gâr yn fyw i bawb

Ein gweledigaeth yw cael amgueddfeydd lleol sy'n canolbwyntio ar y gymuned ar flaen y gad o ran newid, cynaliadwyedd, gofalu am gasgliadau a hygyrchedd yng Nghymru.

Chi sydd wrth wraidd y weledigaeth honno. A gall eich sgiliau, eich straeon a'ch cefnogaeth helpu i wireddu'r weledigaeth honno.

Boed yn wirfoddoli eich amser i ysbrydoli pobl ifanc, codi arian ar gyfer caffael pwysig, neu wneud cyfraniad tuag at ddigwyddiad cyffrous, mae eich cefnogaeth yn gwneud casgliad Sir Gâr – a stori Sir Gâr – yn hygyrch i bawb.

Group of volunteers and participants gathered around tables during a museum research or digitisation session. Several people are working on laptop computers, while others examine books and archival materials from open storage boxes.

Gwirfoddoli

Mae gwirfoddolwyr yn dod â mewnwelediadau a dealltwriaeth newydd. Ac os hoffech ymuno â ni – bydd gwirfoddolwyr yn rhan enfawr o ddyfodol CofGâr.

Dysgu mwy

Rolau gwirfoddoli sydd ar gael

A young girl in a red bib holds a hand over a painted circle representing a Llanelly Pottery plate.

Gwirfoddolwr Ymgysylltu â Theuluoedd

Gan weithio o Amgueddfa Parc Howard, byddwch yn cynnig profiad eithriadol i deuluoedd, gan ddod â'n casgliadau amgueddfa yn fyw i blant a phobl ifanc.

Read more
Bath stone two-storey building with a tower stands in the middle of a park. Green lawns with beds of pink and red flowers fill the foreground.

Gwirfoddolwr Profiad Ymwelwyr

Gan weithio o Amgueddfa Parc Howard, byddwch yn ysbrydoli ymwelwyr ac yn gwella eu profiad o'r amgueddfa, gan sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael croeso ac yn cael eu cynnwys a'u hysbysu'n dda yn ystod eu hamser yn yr amgueddfa.


 

Read more
Objects from the 1950's and 1960's arranged on a table. Objects include magazines, a dial telephone, comics, coins, and a suitcase

Gwirfoddolwr Atgofion

Gan weithio o Amgueddfa Sir Gâr, byddwch yn dod â llawenydd i grwpiau cymunedol, cartrefi gofal a chlybiau cinio, ac yn creu cysylltiadau ystyrlon ag unigolion a chymunedau.

 

Read more

Profiad gwaith

Dysgwch sgiliau newydd a chael hwyl drwy brofiad gwaith mewn amgueddfa CofGâr.

Ydych chi â diddordeb mewn gyrfa ym myd amgueddfeydd? Neu efallai bod gennych chi gariad at hanes? Efallai eich bod hyd yn oed eisiau gweithio ym maes gwasanaeth cwsmeriaid neu farchnata, ond heb ddod o hyd i'r llwybr cywir i gyrraedd yno.

Yn CofGâr, gallwn gynnig lleoliadau profiad gwaith i ddisgyblion ysgol uwchradd a fydd yn eich cyflwyno i bob agwedd ar weithio mewn amgueddfeydd, o groesawu ymwelwyr i warchod casgliadau.

Darllenwch am brofiadau pobl eraill
Group of the Friends gathered inside a historic museum interior during a seasonal event. Several people stand and listen to a guide speaking on the left side of the image, while others converse near a wooden doorway.

Cyfeillion Amgueddfa Parc Howard Llanelli

Dysgu mwy