Profiad gwaith

Dysgwch sgiliau newydd a chael hwyl drwy brofiad gwaith mewn amgueddfa CofGâr.
Ydych chi â diddordeb mewn gyrfa ym myd amgueddfeydd? Neu efallai bod gennych chi gariad at hanes? Efallai eich bod hyd yn oed eisiau gweithio ym maes gwasanaeth cwsmeriaid neu farchnata, ond heb ddod o hyd i'r llwybr cywir i gyrraedd yno.
Yn CofGâr, gallwn gynnig lleoliadau profiad gwaith i ddisgyblion ysgol uwchradd a fydd yn eich cyflwyno i bob agwedd ar weithio mewn amgueddfeydd, o groesawu ymwelwyr i warchod casgliadau.
Cyfleoedd
Mae ein lleoliadau profiad gwaith yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ysgolion uwchradd roi cynnig ar ystod eang o rolau ar draws y gwasanaeth amgueddfeydd. Byddwch yn dysgu sgiliau newydd ac yn darganfod beth rydym yn ei wneud yn ddyddiol i sicrhau bod profiad ein hymwelwyr yn rhagorol ar draws unrhyw un o'n pedair amgueddfa sydd ar agor i'r cyhoedd. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i fynd y tu ôl i'r llenni i'n helpu i ofalu am y casgliadau neu baratoi ein rhaglen ddigwyddiadau.
Mae rhai o'r gweithgareddau y gallwch roi cynnig arnynt yn cynnwys:
- Croesawu ymwelwyr a dweud wrthynt am yr amgueddfa
- Helpu i baratoi gweithgareddau teuluol
- Gofalu am y casgliadau gan ddefnyddio sgiliau cadwraeth
- Ysgrifennu postiadau cyfryngau cymdeithasol neu gynnwys gwefan
- Ymchwilio i wrthrychau neu fewnbynnu data
Gwneud cais
Bydd y rhan fwyaf o gyfleoedd profiad gwaith ar gyfer ysgolion uwchradd yn cael eu trefnu gan yr ysgolion eu hunain. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod nad yw pob plentyn yn cael ei addysgu drwy'r system ysgolion, ac efallai y bydd eraill yn dymuno dysgu mwy am brofiad CofGâr cyn gwneud cais. Felly, rydym yn croesawu pob ymholiad ynghylch profiad gwaith ar ran pobl ifanc 14-18 oed, a byddwn yn gwneud ein gorau i ddiwallu eich anghenion.
I gysylltu â ni, anfonwch e-bost at gwybodaeth@cofgar.cymru neu ffoniwch 01267 228696.


