Stori Owain
Mae'r wythnos hon wedi rhoi llawer o brofiad a mewnwelediad manwl i mi ynghylch sut mae amgueddfa'n gweithredu y tu ôl i'r llenni, e.e. gwaith adfer a chwilio am bryfed.
Ymhlith fy hoff weithgareddau a phrofiadau yr wythnos hon roedd gwneud ymchwil i'r casgliadau; roedd yn gyffrous darganfod hanes y gwrthrychau oedd yn fy nwylo. Roedd gweithio ym maes Gwasanaethau Cwsmeriaid hefyd yn ddiddorol, gan fy mod yn rhyngweithio ag aelodau o'r cyhoedd oedd yn ymweld â'r Amgueddfa.
Mwynheais yn fawr hefyd siarad â'r Rheolwr Datblygu Amgueddfeydd am y dyheadau a'r cynlluniau ar gyfer yr Amgueddfa yma yng Nghaerfyrddin a'r ardaloedd cyfagos, fel Cydweli a Phentywyn, a sut mae'r rhain oll yn cynnwys casgliadau ac arteffactau gwahanol ac yn addysgu'r cyhoedd am hanes y lleoedd penodol hynny.
Labordy Cadwraeth a hela pryfed
Cyfarfûm â'r Rheolwr Casgliadau yn y Labordy Cadwraeth i fynd ar daith chwilio am bryfed, er mwyn sicrhau nad oedd unrhyw bryfed yn niweidio'r casgliadau a'r arteffactau. Gwelsom gryn dipyn o bryfed cop; nid ydynt yn niweidio'r casgliadau a'r arteffactau yn benodol, ond gallant fod yn arwydd bod pryfed yn yr ardal.
Ymgyfarwyddo ag arddangosfeydd yr Amgueddfa
Ddydd Mawrth, cawson ni gyfle i fynd o gwmpas yr Amgueddfa ar ein cyflymder ein hunain. Roedd hyn yn gyffrous oherwydd gallwn i ddysgu am y casgliadau a'r arteffactau a'u gweld.
Rheoli casgliadau
Ddydd Mawrth, aethom am dro o amgylch ardaloedd 'tu ôl i'r llenni' yn yr Amgueddfa, lle na chaniateir i ymwelwyr fynd. Dysgom fod miloedd o gasgliadau ac arteffactau yn cael eu cadw mewn storfa. Yn ystod y daith, ymwelasom â'r storfeydd, lle mae miloedd ar filoedd o gasgliadau ac arteffactau yn aros i gael eu harddangos.
Cynorthwyo'r tîm Gwasanaethau Ymwelwyr
Aethom o gwmpas yr Amgueddfa yn glanhau llwch ac olion bysedd oddi ar y ffenestri a'r silffoedd, er mwyn gwneud i'r lle edrych yn braf i ymwelwyr.
Dogfennu ac ymchwil
Aethom drwy hen gabinetau ffeilio'r Amgueddfa a gwneud copïau o'r wybodaeth am roddion er mwyn ymchwilio iddynt. Bu'n rhaid i ni chwilio am y rhif unigryw ar y casgliadau a'r arteffactau, a fyddai'n cyfateb i'r wybodaeth yn y ffolder.
Ar ôl gwneud copïau o'r cyfan, gwnaethom ymchwil fer i'r casgliadau a'r arteffactau.
Deall gweledigaeth a chenhadaeth y gwasanaeth
Cwrddasom â'r Rheolwr Datblygu Amgueddfeydd a'r Celfyddydau, a thrafod a dysgu am ddyfodol amgueddfeydd CofGâr. Gofynnodd hefyd i ni gynnig syniadau ynghylch beth y dylid ei ychwanegu at yr Amgueddfa i ddenu mwy o ymwelwyr.
