
Pwerdy i'r byd
Beth sy ma

Darganfod hanes Gwaith Tunplat Cydweli
Mae'r amgueddfa'n gwarchod yr hyn a fu'n un o weithfeydd tunblât cyntaf Prydain, ac sydd bellach y gwaith tunplat hynaf i'w ganfod yn unrhyw le yn Ewrop. Gan ei fod wedi goroesi, mae gan yr hen waith le arbennig yn hanes Chwyldro Diwydiannol Prydain. Cynhyrchwyd bron i hanner tunblât y byd yng Nghymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a llawer ohono yn Sir Gaerfyrddin.

Archif Ffotograffig Gwaith Tunplat Cydweli
Mae archif ffotograffig Gwaith Tunplat Cydweli yn cynnig ffenestr brin a gafaelgar ar un o gymunedau diwydiannol pwysicaf Cymru.

Anrhydeddu'r Gorffennol, Llunio'r Dyfodol: Sgwrs Gymunedol
Roedd y digwyddiad, a ddaeth â thrigolion, gweithwyr proffesiynol treftadaeth a phartneriaid academaidd ynghyd, yn gam cyntaf pwysig wrth drafod cynlluniau ar gyfer dyfodol y safle.

Gaeaf o Newid
Ar ôl y llifogydd di-baid yng ngaeaf 2025 yn sgil Storm Claudia, cwympodd rhan fawr o’r argae hanesyddol ar hen safle Gwaith Tunplat Cydweli.

O Gydweli i'r Byd
Mae'r prosiect Globaleiddio Tunplat wedi dod â CofGâr a haneswyr o'r Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Abertawe at ei gilydd i edrych o'r newydd ar safle treftadaeth ddiwydiannol pwysicaf Sir Gaerfyrddin o bosibl: Gwaith Tunplat Cydweli.
Yn falch o fod yn rhan o CofGâr
Roedd Gwaith Tunplat Cydweli yn un o'r rhai cyntaf ym Mhrydain ac erbyn hyn dyma'r gwaith tunplat hynaf sy'n goroesi yn unrhyw le yn Ewrop. Caewyd yr hen amgueddfa ddiwydiannol ar y safle yn 2017. Mae ailagor y safle fel amgueddfa fodern ac adnodd cymunedol bellach yn flaenoriaeth i'r gwasanaeth. Rydym yn eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin (CofGâr) ac yn cael ein cynnal ganddynt.
Rydym yn deulu o bum amgueddfa sydd wedi'u lleoli yn Sir Gaerfyrddin. Gyda'n gilydd, rydym yn cynrychioli gwasanaeth amgueddfeydd a chelf Cyngor Sir Caerfyrddin, ac rydym yn gyffrous i'ch croesawu i'n lleoliadau gwych.





