Ymweld â Gwaith Tunplat Cydweli

Mae Gwaith Tunplat Cydweli ar agor ar gyfer teithiau tywys a diwrnodau digwyddiadau arbennig. Edrychwch ar ein tudalen 'Beth sydd Ymlaen' i weld y digwyddiadau nesaf sydd wedi'u trefnu. Ein nod yw cynnal cyfres reolaidd o ddigwyddiadau ar y safle drwy gydol 2027.
Cadwch lygad am ddigonedd o gyfleoedd gwirfoddoli yn 2027 hefyd!
Mae Gwaith Tunplat Cydweli yn gartref i un o'r gweithfeydd cyntaf o'r math hwn ym Mhrydain, ac erbyn hyn dyma'r gwaith tunplat hynaf i'w ganfod yn unrhyw le yn Ewrop. Mae'n lle hardd ac arbennig, ac rydym yn edrych ymlaen at ei weld yn cael ei adfywio yn y dyfodol.
Oriau agor
Dyddiau digwyddiadau arbennig a theithiau tywys drwy gydol 2027.

Ein cyfeiriad
Gwaith Tunplat Cydweli, Heol Llangadog, Mynyddygarreg, Kidwelly, SA17 4LW
