Darganfod hanes Gwaith Tunplat Cydweli

Plât tun oedd 'plastig' ei gyfnod ac fe'i defnyddid ar gyfer ystod eang o gynhyrchion cyffredin. Roedd y rhain yn cynnwys teganau plant, baddonau, cynwysyddion bwyd ac offer cegin. Darparwyd potiau a sosbenni a wnaed yn Llanelli ar gyfer taith olaf a marwol y Capten Robert Falcon Scott i'r Antarctig rhwng 1910 a 1912.
Dechreuodd y gwaith o gynhyrchu plât tun yng Nghydweli ym 1737 ar safle ffwrnais haearn gynharach, a pharhaodd tan 1941. O ddechreuadau bach, ehangodd y gwaith drwy gydol y 19eg ganrif i ddod yn gyflogwr mwyaf ardal Cydweli. Ym 1881, roedd 252 o ddynion a bechgyn a 35 o fenywod yn gweithio yno, a llawer ohonynt wedi'u geni'n lleol. Ond denodd ehangiad y diwydiant bobl newydd hefyd ac arweiniodd at dwf y dref.
Mae'r amgueddfa'n egluro'r broses 'packmill', lle deuai bariau o haearn gyr ar drên ac yna'u trawsnewid yn ddalennau tun drwy ddefnyddio stêm, peiriannau trwm, gwres a phrosesau cemegol. Clidid blychau trwm o ddalennau i weithfeydd stampio lle'u gwasgid yn gynhyrchion; cafodd llawer ohonynt eu gorchuddio ag enamel wedyn. Allforid nwyddau plât tun Prydeinig i bob cwr o'r byd.

