Beth i'w weld yng Nghwaith Tunplat Cydweli
Mae Gwaith Tunplat Cydweli ar agor ar gyfer teithiau tywys a diwrnodau digwyddiadau arbennig. Edrychwch ar ein tudalen 'Beth sydd Ymlaen' i weld y digwyddiadau nesaf sydd wedi'u trefnu. Ein nod yw cynnal cyfres reolaidd o ddigwyddiadau ar y safle drwy gydol 2027.
Rydym ar ddechrau prosiect hirdymor i ail-ddychmygu'r safle fel amgueddfa fodern a chynaliadwy, ac fel lle sy'n cynnig cyfleoedd dysgu a chyflogaeth i bobl ifanc. Byddwn yn ymgynghori â'r gymuned ym mhob cam o'r broses er mwyn archwilio a rhannu syniadau ar gyfer dyfodol y safle. Bydd digonedd o gyfleoedd i gymryd rhan a gwirfoddoli hefyd wrth i'r gwaith fynd rhagddo.
Yn y cyfamser, mae'r dudalen hon yn ganllaw i'r hyn y byddwch yn ei weld ar y safle os byddwch yn ymuno ag un o'n teithiau, neu'n ymweld ar un o'n diwrnodau digwyddiadau.
Ffilmio a Ffotograffiaeth
Ffilmio
Rydym yn croesawu diddordeb mewn defnyddio Gwaith Tunplat Cydweli fel lleoliad ar gyfer cynyrchiadau ffilmio masnachol. Mae'r safle 13 erw yn cynnwys amrywiaeth o dirweddau, o warysau diwydiannol mawr sy'n llawn peiriannau ac injans o'r 19eg ganrif, i goedwig wledig ac Afon Gwendraeth Fach. Mae yna hefyd argae a phyll dŵr o'r 18fed ganrif sy'n gysylltiedig ag olion y gwaith tunplat gwreiddiol, sy'n cynnwys llwybrau cerrig, twneli, ffosydd a mwy.
Byddai'r safle'n berffaith ar gyfer cynyrchiadau cyfnod hanesyddol o'r 18fed ganrif ymlaen; ffuglen wyddonol; trosedd neu ddirgelwch; a llawer mwy.
Ar gyfer cynyrchiadau masnachol sydd â diddordeb, gofynnir i chi geisio caniatâd cychwynnol i ffilmio gan dîm Marchnata a'r Cyfryngau Cyngor Sir Gaerfyrddin drwy lenwi'r ffurflen hon. Yna, rhowch wybod i ni yn cofgar@sirgar.gov.uk eich bod wedi cyflwyno ffurflen cais i ffilmio.
Byddai pob gwaith ffilmio masnachol yn destun tâl i'w gytuno gyda thîm CofGâr. Fodd bynnag, byddai'r holl arian a godir yn cael ei ail-fuddsoddi i gefnogi'r gwaith o ail-ddychmygu'r safle, felly byddech yn cyfrannu at ddatblygu adnodd cymunedol hanfodol.
Ffotograffiaeth
Rydym hefyd yn croesawu ymholiadau ynghylch sesiynau ffotograffiaeth fasnachol yn Gwaith Tunplat Cydweli. Cysylltwch â ni yn cofgar@sirgar.gov.uk i drafod eich gofynion.
Mae pob sesiwn ffotograffiaeth fasnachol yn destun tâl y cytunir arno gyda thîm CofGâr. Fodd bynnag, byddai'r holl arian a godir yn cael ei ail-fuddsoddi i gefnogi'r gwaith o ail-ddychmygu'r safle; felly, byddech yn cyfrannu at ddatblygu adnodd cymunedol hanfodol.







Ymweld
Mae Gwaith Tunplat Cydweli ar agor ar gyfer teithiau tywys a diwrnodau digwyddiadau arbennig. Edrychwch ar ein tudalen 'Beth sydd Ymlaen' i weld y digwyddiadau nesaf sydd wedi'u trefnu.
Dysgu mwy