Amdano â Gwaith Tunplat Cydweli
Ein Stori
Roedd Gwaith Tunplat Cydweli yn un o'r gweithfeydd tunplat cyntaf ym Mhrydain, ac erbyn hyn dyma'r gwaith tunplat hynaf sy'n weddill yn Ewrop. Gan ei fod wedi goroesi, mae gan yr hen waith le arbennig yn hanes Chwyldro Diwydiannol Prydain. Cynhyrchwyd bron i hanner tunplat y byd yng Nghymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gyda llawer ohono'n cael ei gynhyrchu yn Sir Gaerfyrddin.
Prynwyd y safle gan Gyngor Bwrdeistref Llanelli ym 1974 ac fe'i prydleswyd yn ddiweddarach i Ymddiriedolaeth Canolfan Treftadaeth ac Amgueddfa Tunplat Cydweli. Buont yn rhedeg y safle fel amgueddfa rhwng 1988 a 2017, ar ôl adfer rhai o nodweddion gwreiddiol y gwaith a dod ag adeiladau o weithfeydd diwydiannol eraill yn yr ardal – oedd bellach wedi cau – i'r safle.
Mae gofal y safle bellach wedi dychwelyd i Gyngor Sir Caerfyrddin a CofGâr. Mae'r amgueddfa ar gau i'r cyhoedd am y tro tra'n gweithio ar ail-ddychmygu ac adfer y safle fel canolfan ddysgu, chwarae a chynaliadwyedd ar gyfer y dyfodol.
Ein stori – y bennod nesaf
Daeth teulu CofGâr a’i dîm ehangach i fodolaeth yn 2023. Yn ystod 2022-23, tra oedd y gwaith o adeiladu CofGâr yn mynd rhagddo, cwblhawyd arolygon helaeth o Waith Tunplat Cydweli i roi darlun o gyflwr yr adeiladau amgueddfa rhestredig a’r strwythurau cofrestredig.
Roedd gwaith arall a wnaed ar yr un pryd yn cynnwys adolygiad o’r casgliadau ac asesiad ecolegol rhagarweiniol. Yn sgil hyn, paratowyd drafft o werthusiad opsiynau, a oedd yn ystyried y goblygiadau i gymdeithas, cadwraeth hanesyddol, yr economi a’r amgylchedd.
Ym mis Tachwedd 2024, penderfynodd Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin yn unfrydol ddewis yr opsiwn i ailagor yr amgueddfa ar ffurf newydd, gan gynnig gweledigaeth ar gyfer yr 21ain ganrif sy’n gwella ac yn manteisio ar bopeth sydd gan y safle i’w gynnig.
Ers hynny, mae CofGâr wedi bod yn datblygu dealltwriaeth well o arwyddocâd y safle, a fydd yn llywio cynllunio yn y dyfodol. Cam cyntaf allweddol oedd derbyn cyllid o Gronfa Ddiwylliant Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru yn 2025. Dyfarnwyd bron i £18,000 o gyllid ar gyfer prosiect i ymchwilio i hanesion trefedigaethol byd-eang y diwydiant tunplat yn ne-orllewin Cymru, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe.
Cwblhawyd yr ymchwil yn gynnar yn 2026 a chyflwynwyd y canfyddiadau mewn digwyddiad a gynhaliwyd yng Nghanolfan John Burns yng Nghydweli. Roedd y digwyddiad, *Anrhydeddu’r Gorffennol, Llunio’r Dyfodol*, yn archwilio’r cysylltiadau rhwng y bobl a ariannodd ac a reolodd weithfeydd tunplat yn ne-orllewin Cymru; y bobl a ddefnyddiodd tunplat; a threfedigaethiaeth ac caethwasiaeth.
Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i ddechrau sgwrs gymunedol ynghylch ailagor Gwaith Tunplat Cydweli fel amgueddfa. Gwahoddwyd pobl o gymunedau cyfagos Cydweli, Mynyddygarreg ac eraill i ystyried sut y gallai amgueddfa wedi’i hadnewyddu helpu a chyfrannu at eu cymunedau. Cofnodwyd yr holl syniadau a barnau, a byddant yn helpu i lunio camau nesaf y prosiect hirdymor hwn. Cynhelir rhagor o sgyrsiau a digwyddiadau cymunedol yn y dyfodol i arwain y broses tuag at ailagor.
Beth sy'n gwneud Gwaith Tunplat Cydweli yn arbennig?
Mae'r safle'n cadw'r hyn a fu'n un o weithfeydd tunblât cyntaf Prydain, ac erbyn hyn dyma'r gwaith tunblât hynaf i'w ganfod yn unrhyw le yn Ewrop. Gan ei fod wedi goroesi, mae gan yr hen waith le arbennig yn hanes Chwyldro Diwydiannol Prydain. Cynhyrchwyd bron i hanner tunblât y byd yng Nghymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a llawer ohono yn Sir Gaerfyrddin.
