Stori Ffion
Ffion ydw i, ac rydw i wedi bod yn gwneud profiad gwaith yn Amgueddfa Sir Gâr. Roeddwn i'n awyddus i dreulio'r wythnos mewn amgueddfa oherwydd fy niddordeb mewn hanes – yn enwedig hanes celf – ac mae gan yr amgueddfa hon lawer i'w gynnig yn y maes hwnnw.
Drwy gydol yr wythnos, rydw i wedi cymryd rhan mewn amrywiol dasgau, megis ymweld â'r labordy adfer, trin eitemau o'r casgliadau, gwneud ymchwil ar arteffactau gwahanol, a gweithio ym maes gwasanaethau ymwelwyr.
Yn fy marn i, yr agwedd orau oedd ymweld â'r labordy adfer, gan fod gen i ddiddordeb yn y pwnc ac yr hoffwn ddilyn gyrfa ym maes adfer arteffactau a chasgliadau amrywiol.
Byddwn i'n argymell yn gryf bod unrhyw un sydd â diddordeb mewn hanes neu guradu yn gwneud profiad gwaith yma; mae'n dangos i bobl beth sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni a'r holl waith sydd ei angen i arddangos casgliadau, cynnal digwyddiadau a mwy.
