Stori Sophie
Sophie ydw i, ac fe wnes i ddewis gwneud fy mhrofiad gwaith yn Amgueddfa Sir Gâr oherwydd fy niddordeb mewn hanes, yn enwedig y cyfnodau hynafol.
Yn ystod yr wythnos, cawsom gipolwg ar y swyddi niferus a gwahanol sydd ar gael mewn amgueddfa; ar ddechrau'r wythnos roeddem yn trin a thrafod casgliadau ac yn gwneud ymchwil amdanynt. Dysgom am yr holl bethau y mae'n rhaid i amgueddfeydd eu gwneud i gadw arteffactau mewn cyflwr da, a gwelsom sut mae'r tîm gwasanaethau ymwelwyr yn gweithio i sicrhau bod yr amgueddfa'n cael ei chadw'n ddiogel ac yn lân.
Un peth a fwynheais wrth wneud fy mhrofiad gwaith oedd gweld pa mor agos y maent yn gweithio gyda'r gymuned; enghraifft o hyn yw'r blychau atgofion maent yn eu datblygu ar gyfer gwahanol ddegawdau, i'w dangos i bobl â dementia neu glefyd Alzheimer er mwyn eu helpu i siarad am y gorffennol a'u hatgofion eu hunain.
Mae profiad gwaith yn yr amgueddfa yn bendant yn werth ei wneud, gan fod gennych gyfle i gyflawni tasgau sy'n ymwneud â'r nifer o yrfaoedd gwahanol sydd ar gael mewn amgueddfa, yn hytrach na threulio'r wythnos yn gwneud un peth yn unig.
