Stori Emily
Emily ydw i, ac fe wnes i ddewis gwneud fy mhrofiad gwaith yn Amgueddfa Sir Gâr oherwydd roeddwn i'n meddwl y byddai'n gyfle da i ddysgu pethau newydd a diddorol am hanes, ac yn gyfle i ennill a gwella sgiliau ar gyfer y dyfodol.
Yn ystod yr ychydig wythnosau rydw i wedi bod yn Amgueddfa Sir Gâr, rydw i wedi cael cyfle i wneud amrywiaeth o bethau gwahanol i helpu o gwmpas yr amgueddfa, gan gynnwys tasgau 'tu ôl i'r llenni'. Dyma rai o'r pethau rydw i wedi'u gwneud hyd yn hyn:
- Gweld sut mae'r til yn gweithio yn y siop;
- Helpu i ddod o hyd i bethau gwahanol yn y storfa;
- Glanhau, ac ymchwilio i eitemau o ddegawdau gwahanol.
Rydw i wedi cyfarfod â phobl newydd ac wedi dysgu am y swyddi niferus a gwahanol maen nhw'n eu gwneud o gwmpas yr amgueddfa, a'r gweithgareddau sy'n digwydd yn y cefndir i helpu i wneud yr amgueddfa hyd yn oed yn well! Rydw i wedi gweld faint o waith ac ymdrech sy'n mynd i mewn i wneud yr amgueddfa'n amgylchedd diogel, glân a thawel i bobl ddod i mewn, cymryd eu hamser a dysgu am y nifer fawr o arddangosfeydd gwahanol yn eu hamgueddfa leol.
Un o'r prif bethau rydw i wedi bod yn gweithio arnynt y tu ôl i'r llenni yw'r blychau atgofion. Blychau sy'n llawn eitemau o ddegawdau gwahanol yw'r blychau atgofion; cânt eu dangos i bobl â dementia neu glefyd Alzheimer i'w helpu i siarad am eu gorffennol. Mae gweithio y tu ôl i'r llenni yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin wir wedi fy helpu i weld faint mae pawb yn yr amgueddfa yn malio am y gymuned, gyda'r holl ddigwyddiadau a gweithgareddau maen nhw'n eu cynllunio i bobl o bob oedran gymryd rhan ynddynt.
Byddwn yn bendant yn argymell gwneud profiad gwaith yn Amgueddfa Sir Gâr i unrhyw un sydd eisiau cyfle i weithio mewn amgylchedd tawel ac hamddenol i wella eu sgiliau, gweld y swyddi gwahanol sydd ar gael mewn amgueddfa, a dysgu pethau newydd am hanes o ddegawdau gwahanol yn ogystal â hanes Caerfyrddin.
