Skip to content

Gwirfoddolwr Atgofion

Objects from the 1950's and 1960's arranged on a table. Objects include magazines, a dial telephone, comics, coins, and a suitcase
Mae'r rôl hon wedi'i lleoli yn Amgueddfa Sir Gâr, ond bydd yn golygu teithio i gymunedau ledled y sir.

Ydych chi'n angerddol am gadw atgofion a chreu cysylltiadau ystyrlon o fewn cymunedau?

Pwrpas

Dod â llawenydd i grwpiau cymunedol, lleoliadau gofal preswyl a chlybiau cinio, a chreu cysylltiadau ystyrlon ag unigolion a chymunedau.

Tasgau Gwirfoddolwyr

  • Dod o hyd i eitemau amrywiol ar gyfer blychau atgofion a'u casglu at ei gilydd
  • Trefnu a churadu blychau atgofion sydd wedi'u teilwra ar gyfer gwahanol gymunedau
  • Hyrwyddo pwysigrwydd blychau atgofion
  • Cynnal sesiynau atgofio deniadol, boed yn yr amgueddfa neu mewn lleoliadau cymunedol (os dymunir)
  • Creu amgylchedd diogel, croesawgar a chynhwysol i'r cyfranogwyr
  • Casglu adborth er mwyn gwella'r gwasanaeth yn barhaus

Pwy rydyn ni'n chwilio amdano?

Rydym yn chwilio am bobl sy'n eiriolwyr brwdfrydig; sy'n angerddol am ddiogelu atgofion a'r effaith gadarnhaol y gall atgofio ei chael ar unigolion a'u cymunedau; sydd â dawn i ddod o hyd i eitemau sy'n dwyn atgofion yn ôl ac i'w curadu; sy'n frwdfrydig am gysylltu â grwpiau cymunedol amrywiol; ac sy'n hwyluswyr tosturiol sy'n gallu creu awyrgylch croesawgar a chynhwysol.

Beth sydd ynddo i chi?

  • Rôl hwyliog ac amrywiol fel rhan o dîm cyfeillgar a chefnogol o wirfoddolwyr a staff
  • Cyfle i ddatblygu sgiliau hwyluso ac ymgysylltu â'r gymuned wrth gyfrannu at achos gwerthfawr
  • Y boddhad o wella lles unigolion a chymunedau, a chael effaith gadarnhaol ac ystyrlon arnynt
  • Ennill Credydau Amser Tempo i'w gwario ar ddiwrnodau allan

Ymrwymiad

Hyblyg – Dim ymrwymiad lleiaf.

Hyfforddiant a Chymorth

Bydd cyflwyniad cynhwysfawr, hyfforddiant a chefnogaeth barhaus gan staff a gwirfoddolwyr eraill ar gael.

Cysylltu

Mae'r rôl hon ar sail wirfoddol ac nid yw'n creu trefniant sy'n rhwymo'n gyfreithiol na chytundeb cyflogaeth â thâl.

I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, cysylltwch â'n tîm.

Gwneud Cais Nawr