Gwirfoddolwr Profiad Ymwelwyr

Ydych chi'n angerddol am hanes a diwylliant, ac yn awyddus i rannu eich brwdfrydedd â chynulleidfaoedd amrywiol?
Pwrpas
I ysbrydoli ymwelwyr a gwella eu profiad yn yr amgueddfa, gan sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael croeso, yn ymgysylltu ac yn cael gwybodaeth dda yn ystod eu hamser yn yr amgueddfa.
Tasgau Gwirfoddolwyr
- Arwain a hysbysu ymwelwyr, gan sicrhau profiad cyfoethog a phleserus
- Creu amgylchedd diogel, croesawgar a chynhwysol i bob ymwelydd
- Dehongli arddangosfeydd a chasgliadau, gan ateb ymholiadau a rhoi cyfarwyddiadau
- Gweithredu fel llysgennad i'r amgueddfa, gan annog ymwelwyr i archwilio ein hamgueddfeydd eraill, arddangosfeydd sydd ar ddod, a digwyddiadau arbennig
- Arwain teithiau a rhoi sgyrsiau os dymunir
- Sicrhau bod ardaloedd ymwelwyr yn ddiogel, yn lân ac yn daclus
- Ymgysylltu ag ymwelwyr ac annog adborth
Pwy rydyn ni'n chwilio amdano?
Rydym yn chwilio am bobl sy'n mwynhau ymgysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol; sydd â diddordeb gwirioneddol mewn amgueddfeydd, celf, hanes neu arddangosfeydd diwylliannol ac sy'n mwynhau rhannu eu brwdfrydedd ag eraill; sydd ag agwedd gyfeillgar a hygyrch ac yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid eithriadol i wella profiad cyffredinol yr ymwelwyr; sy'n awyddus i ehangu eu gwybodaeth am gasgliadau'r amgueddfa; ac sydd â dealltwriaeth o greu amgylchedd cynhwysol a chroesawgar i bob ymwelydd, ynghyd ag ymrwymiad i wneud hynny.
Beth sydd ynddo i chi?
- Rôl hwyliog ac amrywiol fel rhan o dîm cyfeillgar a chefnogol o wirfoddolwyr a staff
- Cyfle i ddatblygu sgiliau a phrofiad ym maes profiad ymwelwyr mewn amgylchedd amgueddfa
- Cyfleoedd i gwrdd â gwirfoddolwyr eraill, staff a sefydliadau partner
- Ennill Credydau Amser Tempo i'w gwario ar ddiwrnodau allan!
Ymrwymiad
Hyblyg – Dim ymrwymiad lleiaf.
Hyfforddiant a Chymorth
Bydd sesiwn ymsefydlu, hyfforddiant a chefnogaeth barhaus gan staff a gwirfoddolwyr eraill ar gael.
Cysylltu
Mae'r rôl hon ar sail wirfoddol ac nid yw'n creu trefniant sy'n rhwymo'n gyfreithiol na chytundeb cyflogaeth â thâl.
I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, cysylltwch â'n tîm.
