Cyfeillion Amgueddfa Parc Howard Llanelli

Mae sefydliad Cyfeillion Amgueddfa Parc Howard Llanelli, wedi bodoli ers 1995 ac fe'i sefydlwyd gyda'r nod o hyrwyddo diddordeb yn hanes Llanelli drwy'r Amgueddfa. Maent hefyd yn anelu at ddenu mwy o bobl i Amgueddfa Parc Howard drwy sgyrsiau a digwyddiadau.
Mae eu gwaith llwyddiannus o godi arian a gweithgareddau eraill wedi eu galluogi i gynorthwyo'r Amgueddfa i brynu gwrthrychau sylweddol ar gyfer y casgliad. Mae gwrthrychau blaenorol yn cynnwys arteffactau o Fragdy Buckley a chadair Eisteddfod Llanelli 1896.
Cymerwch olwg isod ar rai gwrthrychau eraill y mae'r Cyfeillion wedi helpu i'w hariannu.

