Llogi Corfforaethol
Dewiswch rywbeth gwahanol i'r arfer ac ysbrydolwch eich tîm neu'ch cleientiaid gyda digwyddiad corfforaethol yn CofGâr.
Mae ein lleoliadau unigryw, sy'n llawn hanes a diwylliant, yn cynnig cefndir bywiog ar gyfer cynadleddau, cyfarfodydd a seminarau. Wedi'u lleoli yng nghalon Sir Gâr, mae gofodau CofGâr yn cyfuno cyfleusterau modern â chymeriad a swyn yr amgueddfeydd sydd dan ein gofal, gan sicrhau bod eich digwyddiad yn broffesiynol ac yn gofiadwy.
Gyda digonedd o ddewis o ystafelloedd a gofodau ar draws pedair amgueddfa, rydym yn hyderus y gallwn gynnig yr un perffaith i chi.
Amgueddfa Cyflymder

Mae gan ein hystafell ddigwyddiadau yn Amgueddfa Cyflymder dechnoleg clyweledol o'r radd flaenaf, sy'n berffaith ar gyfer cynadledda fideo a ffrydio byw. Mae gennym Wi-Fi cyflym, sgrin daflunio enfawr, a chamera diffiniad uchel i wneud i'r rhai sy'n gweithio o bell deimlo eu bod yn yr ystafell gyda chi. Heb anghofio'r cefndir godidog o Draeth Pentywyn, sy'n ymestyn am saith milltir.
Cartref Dylan Thomas
Ychydig ymhellach i fyny'r arfordir o Bentywyn mae tref fechan hyfryd Talacharn, Cartref Dylan Thomas. Wedi'i leoli ar Lwybr Arfordir Cymru, mae'r lleoliad bendigedig hwn yn berffaith ar gyfer pobl greadigol neu ddiwrnodau cofiadwy i ffwrdd o'r gwaith. Gan fod modd llogi'r Cartref cyfan, gallwch ddod o hyd i ysbrydoliaeth ar gyfer prosiectau heriol neu lonyddwch i gryfhau eich tîm. Bydd gennych hyd yn oed fynediad i Sied Ysgrifennu Dylan, sy'n cynnig man perffaith i ddatblygu eich gweithiau gorau – yn union fel y gwnaeth i Dylan Thomas.

Amgueddfa Sir Gâr

Ar gyfer grwpiau llai, mae Llyfrgell yr Esgob yn Amgueddfa Sir Gâr yn cynnig lleoliad clyd yn arddull y mudiad Celf a Chrefft; mae ei chasgliad rhagorol o lyfrau yn creu awyrgylch sy'n hyrwyddo canolbwyntio a dysgu. Mae gan yr ystafell, sydd â phaneli pren, gysylltiad WiFi gwych, sgrin daflunio a chanrifoedd o hanes i ysbrydoli eich tîm. Mae Cegin Stacey, sy'n hynod boblogaidd ac wedi'i leoli drws nesaf i'r Amgueddfa, hefyd yn lleoliad gwych ar gyfer cinio.
Amgueddfa Parc Howard
Ac os ydych chi'n chwilio am le ger Abertawe neu ychydig oddi ar yr M4, mae Amgueddfa Parc Howard yn ddewis gwych. Dim ond chwe milltir o'r draffordd, mae'r plasty Fictoraidd cain hwn yn arddangos hanes arloesi a darganfod sy'n gwneud Llanelli yn dref mor fywiog. Gyda mannau mawr fel Ystafell James Buckley neu'r Brif Neuadd, nid oes prinder mawredd na chyfleusterau, tra bod ystafelloedd llai fel yr Oriel Arddangos yn lleoedd gwych ar gyfer sesiynau ar wahân.

Archebwch eich profiad corfforaethol nawr
Mae archebu eich profiad corfforaethol gyda CofGâr yn golygu eich bod mewn dwylo diogel. Mae gofal a sylw yn rhan o'n natur. Fel gwasanaeth amgueddfeydd ac celfyddydau lleol mwyaf uchelgeisiol Cymru, rydym yn anelu at ddarparu profiad rhagorol i'n holl ymwelwyr.
Mae archebu gyda ni hefyd yn golygu eich bod yn cefnogi gwaith pwysig CofGâr o ran gwarchod, cyflwyno a datblygu stori Sir Gâr. Ein stori ni yw stori Cymru, o ffermio i lên gwerin, ac o gloddio i fyd moduro.
Mae incwm o logi lleoliadau ar gyfer digwyddiadau yn hanfodol i ni. Mae'r gefnogaeth hael a gawn gan Gyngor Sir Caerfyrddin yn ein helpu i warchod eich treftadaeth. Ond ni allwn hyrwyddo eich treftadaeth drwy raglenni dysgu a digwyddiadau heb eich cefnogaeth chi. Po fwyaf y byddwch yn ein cefnogi drwy archebion, y mwyaf y gallwn rannu stori Sir Gâr â'r byd, ysbrydoli ein dyfeiswyr nesaf a llunio ein hadroddwyr straeon nesaf.
I archebu lle neu i ddysgu mwy am yr opsiynau llogi, cysylltwch â'n tîm. Llenwch y ffurflen isod, anfonwch e-bost atom yn gwybodaeth@cofgar.cymru, neu ffoniwch 01267 228696. Gadewch i ni ddod â'ch dathliadau yn fyw!
