Skip to content
Cartref Dylan Thomas
Erthygl

Sicrhawyd buddsoddiad sylweddol ar gyfer Cartref Dylan Thomas, gyda gwelliannau cyffrous i brofiad ymwelwyr ar y gweill

Mae Cartref Dylan Thomas yn Nhalacharn wedi derbyn dros £77,000 o Gronfa Treftadaeth, Twristiaeth a Diwylliant – menter ar y cyd rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Bydd y cyllid yn helpu i sicrhau bod yr atyniad diwylliannol pwysig hwn yn parhau i gynnig profiad o safon uchel i ymwelwyr, tra hefyd yn diogelu ei gasgliad ar gyfer y dyfodol.

Two children use an activity and drawing station inside the Dylan Thomas Boathouse. One child selects coloured pens from a wall-mounted holder while another draws at a wooden desk.

Mae cartref teuluol olaf Dylan Thomas wedi bod ar agor i’r cyhoedd ers dros 50 mlynedd. Bydd y buddsoddiad hwn yn cefnogi gwaith adnewyddu sylweddol ar y gofod arddangos ar y llawr uchaf, gan gynnwys oriel bwrpasol ar gyfer arddangosfeydd dros dro, a deunydd dehongli wedi’i ddiweddaru sy’n cynnwys arddangosion aml-synhwyraidd a sgriniau cyffwrdd. Bydd profiad digidol newydd hefyd yn galluogi pobl unrhyw le yn y byd i archwilio golygfa 360 gradd o gartref Dylan Thomas. Bydd y casgliad ei hun hefyd yn elwa, gyda chasys arddangos arbenigol o safon amgueddfa, bleindiau haul, a fframiau cadwraeth, a fydd yn helpu i’w ddiogelu ar gyfer cenedlaethau i ddod.

Mae’r amgueddfa wedi ymrwymo i ddod yn fwy hygyrch a chroesawgar i deuluoedd. Bydd y llawr uchaf, sydd wedi’i adnewyddu, yn gwahodd ymwelwyr o bob oed i brofi byd dychymyg Dylan Thomas, ei gymeriadau, a’i ddelweddau barddonol. Mae hyn yn cynnwys y cornel gweithgareddau poblogaidd i blant, bagiau synhwyraidd, ac ardal ar gyfer amser stori.

Daw’r buddsoddiad yn sgil gwaith cynllunio helaeth gan CofGâr – gwasanaeth amgueddfeydd ac y celfyddydau Cyngor Sir Gaerfyrddin – i ddatblygu gweledigaeth hirdymor ar gyfer y Cartref. Mae CofGâr wedi rheoli’r amgueddfa ers 2023.

Er mwyn galluogi i’r gwaith gael ei gwblhau’n ddiogel ac yn effeithlon, bydd Cartref Dylan Thomas ar gau dros dro yn ystod mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2026. Dewiswyd yr amseriad hwn er mwyn lleihau’r tarfu ar ymwelwyr cyn belled ag sy’n bosibl.

Bydd CofGâr yn rhannu diweddariadau rheolaidd am y gwaith a’r broses o ailagor trwy ei wefan a’i sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Newyddion

Children and accompanying adults take part in an interactive activity inside a historic room with dark wood panelling and a grand piano. Several children stand with their hands on their heads while following instructions, while others watch nearby.
16/10/26

Grant mawr gan Lywodraeth Cymru i hybu diwylliant ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru

Mae cymunedau ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru ar fin elwa o fuddsoddiad diwylliannol mawr, wrth i'r rhanbarth sicrhau grant a ddyfarnwyd o dan ffrwd ariannu newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer ei Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant.

Read more
Illustrated Halloween-themed image of a large historic mansion with glowing orange windows against a dark orange sky, alongside a circular photo of a person gardening and holding freshly harvested vegetables.
16/10/26

Gwrachod, dewiniaid a dim tamaid o blastig

Cewch Galan Gaeaf gynaliadwy yn CofGâr!

Read more
Photograph of a historic stone castle ruin standing on a grassy rise beneath a clear blue sky.
12/08/26

Darganfod cysylltiad Turner â Thalacharn

Dilynwch ôl traed J.M.W. Turner drwy Gastell Talacharn, Aber Taf a'r tirweddau a ysbrydolodd y ddau – yr arlunydd enwog a'r bardd Dylan Thomas.

Read more
Exhibition poster for Romantic Wales, 23.05.2026 - 16.10.2026 at Carmarthenshire Museum.
12/08/26

Y Gymru Ramantaidd yn dod â J.M.W.Turner i Amgueddfa Sir Gâr

Mae arddangosfa newydd gyffrous, Y Gymru Ramantaidd: Turner a'i Gyfoedion, bellach ar agor yn Amgueddfa Sir Gâr yn Abergwili tan 16 Hydref 2026.

Read more
Museum exhibition panel introducing “The Wild Men of Arenig / Gwŷr Gwyllt Arenig” displayed on a pale pink gallery wall.
12/08/26

Arddangosfa newydd yn dod â Gwŷr Gwyllt Arenig i Amgueddfa Parc Howard

Arddangosfa newydd, Gwŷr Gwyllt Arenig: James Dickson Innes | Augustus John | Derwent Lees yn agor yn Amgueddfa Parc Howard, Llanelli ar 4 Gorffennaf 2026 tan 10 Ionawr 2027.

Read more
View of a slow-flowing river bordered by dense woodland, with overhanging tree branches forming a natural frame across the scene. A stone bridge with a single visible arch spans the water in the middle distance, partially hidden by thick vegetation growing around its walls.
25/06/26

Gaeaf o Newid

Ar ôl y llifogydd di-baid yng ngaeaf 2025 yn sgil Storm Claudia, cwympodd rhan fawr o’r argae hanesyddol ar hen safle Gwaith Tunplat Cydweli. 

Read more
Logo for the Garfield Weston Foundation
17/04/26

Trysorau Cenedlaethol yn dod i Sir Gâr

Rydym wrth ein bodd o fod yn un o 11 amgueddfa ac oriel ar draws y DU sy'n dod â thrysorau cenedlaethol i gymunedau lleol mewn arddangosfeydd ysbrydoledig, a hynny diolch i'r rownd ddiweddaraf o Raglen Benthyciadau Weston gyda Art Fund.

Read more
Vintage racing car named “BABS.” displayed on a beach, surrounded by visitors with cliffs and coastline in the background.
17/04/26

Dathliad canmlwyddiant BABS

Dychwelodd BABS i Draeth Pentywyn yng ngwanwyn 2026, gan ddod â chanrif o gyflymder a straeon yn ôl i'r traeth lle cafodd hanes ei greu.

Read more
Standing stone in foreground, with a green banner behind, in a large top-lit gallery
17/04/26

Orielau Newydd yn Amgueddfa Sir Gâr

Mae CofGâr, gwasanaeth amgueddfeydd ac celfyddydau Cyngor Sir Caerfyrddin, yn falch iawn o gyhoeddi y bydd cam ffisegol cyntaf rhaglen gyffrous o waith yn Amgueddfa Sir Gâr yn dechrau ar 19 Ionawr 2026.

Read more