Pennod Greadigol Newydd

Mae Cartref Dylan Thomas yn cael ei drawsnewid yn fan lle gall pobl greu, rhannu a mwynhau creadigrwydd. Gyda chefnogaeth gan yr Art Fund, rydyn ni'n bwrw golwg ar y posibiliadau o droi Cartref Dylan Thomas i fod yn Hwb Creadigol: man gweithredol, cydweithredol wedi'i lywio gan artistiaid, cymunedau a phobl ifanc.
Er bod y gwaith a greodd Dylan Thomas yn ystod ei gyfnod yma yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol, dim ond llond llaw o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol yn Nhalacharn a'r ardal gyfagos sydd. Mae'r prosiect hwn yn ceisio mynd i'r afael â'r sefyllfa, gan greu canolbwynt lle gall pobl leol gysylltu ag artistiaid, rhoi cynnig ar syniadau newydd a chael mynediad at brofiadau creadigol o ansawdd uchel yn eu cymuned eu hunain. Mae'n ymwneud â throi lle y mae pobl yn ymweld ag ef i le maen nhw'n ei ddefnyddio.

Wrth wraidd y gwaith hwn mae y cydweithrediad cynyddol gyda'r elusen o Sir Gaerfyrddin, Arts Care, a'i thîm o artistiaid sy'n byw ac yn gweithio'n lleol. Gyda'n gilydd, rydyn ni'n dylunio rhaglen gyhoeddus newydd sy'n gwahodd pobl i gymryd rhan, nid arsylwi yn unig, gan agor Cartref Dylan Thomas fel man croesawgar i fod yn greadigol, wedi'i ysbrydoli gan ei dirwedd, ei straeon a'i amgylchoedd.
Man cychwyn pwysig i'r prosiect yw dysgu gan eraill. Fe wnaethon ni ffurfio rhwydwaith lleol gyda Rheilffordd Gwili ac Amgueddfa Llanymddyfri i sefydlu Carfan sy'n addas i Deuluoedd, dan arweiniad arbenigwyr Plant mewn Amgueddfeydd. Gan gydweithio â sefydliadau gwledig eraill yn Sir Gaerfyrddin i brofi syniadau, mae'r Garfan yn lle diogel i rannu arferion a magu hyder wrth weithio'n greadigol gyda theuluoedd. Mae hyn yn bwysig iawn oherwydd bod Cartref Dylan Thomas eisiau croesawu mwy o bobl ifanc a sicrhau bod ymweliadau yn haws i deuluoedd. Mae'r rhwydwaith hwn yn helpu i ymgorffori dull mwy agored, arbrofol, lle mae cynulleidfaoedd yn llywio'r profiad a lle mae creadigrwydd yn rhan o gwaith ymgysylltu bob dydd.
I bobl ifanc, mae'r Hwb Creadigol yng Nghartref Dylan Thomas yn creu cyfleoedd i ddysgu trwy brofiadau newydd. Rydyn ni'n gweithio gydag ysgolion, athrawon ac ymarferwyr creadigol i greu profiadau sy'n cysylltu'r celfyddydau â mannau lleol, hunaniaeth a Chwricwlwm Cymru. Mae'r rhain yn cael eu datblygu a'u profi ar y cyd i sicrhau eu bod yn ystyrlon, yn hygyrch ac yn berthnasol, boed yng Nghartref Dylan Thomas, mewn ystafelloedd dosbarth, neu ar-lein.
Mae'r gwaith hwn yn adlewyrchu newid diwylliannol a fydd yn cefnogi cynlluniau hirdymor yn y dyfodol i adnewyddu ac adfywio Cartref Dylan Thomas fel rhan allweddol o ecosystem ddiwylliannol Talacharn. Y weledigaeth yw cael math newydd o le i Dalacharn a'r rhanbarth: wedi'i wreiddio yn ei leoliad unigryw, ond yn llawncreadigrwydd, cydweithredu a phosibilrwydd cyfoes.
