Amdani ag Amgueddfa Parc Howard
Ein Stori
Sefydlwyd Amgueddfa Parc Howard ychydig flynyddoedd ar ôl Amgueddfa Sir Gâr, ym 1912. Rhoddodd Syr Stafford Howard ac Arglwyddes Catherine Stepney eu plasty Fictoraidd, a oedd newydd ddod i'w meddiant, ar brydles i Gyngor Bwrdeistref Llanelli i'w ddefnyddio fel amgueddfa, oriel ac ystafelloedd darllen. Rhoddodd Arglwyddes Stepney lawer o'r casgliad gwreiddiol, a oedd yn cynnwys gweithiau celf, dodrefn a chynnyrch crochenwaith Llanelli (Crochenwaith Llanelly) a wnaed yn lleol.
Prynodd y Cyngor Bwrdeistref yr amgueddfa a'r parc ym 1965 a'u rheoli tan ad-drefnu llywodraeth leol ym 1996. Cymerodd Cyngor Sir Caerfyrddin, a oedd wedi'i ailsefydlu, yr awenau o ran rhedeg yr amgueddfa o'r adeg honno ymlaen.
Ers 2017, mae Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Llanelli wedi cydweithio i wella datblygiad a chynaliadwyedd Parc Howard; arweiniodd hyn at adnewyddu'r amgueddfa'n llwyr rhwng 2021 a 2024. Mae'r amgueddfa sydd wedi'i hail-ddychmygu bellach yn hyrwyddo gwaddol Llanelli o ran creadigrwydd, darganfod ac entrepreneuriaeth drwy arddangosfeydd rhyngweithiol sy'n addas i deuluoedd ac sydd hefyd yn cydnabod cysylltiadau byd-eang y dref.
