Skip to content
Amgueddfa Parc Howard
Digwyddiad

Gweithdy Gwneud Plethdorchau

Gwnewch plethdorchau a ffefrynnau Nadoligaidd yn Amgueddfa Parc Howard

Hands crafting Christmas wreaths using evergreen foliage, red ribbon, pine cones, and natural decorations, alongside the Blossom to Bloom logo.

Ymunwch â Blossom to Bloom ar gyfer gweithdy plethdorchau Nadolig hynod o wyliol yn amgylchedd hyfryd Parc Howard, Llanelli – y digwyddiad cyntaf o'i fath i'w gynnal yn y lleoliad hanesyddol hwn.

Yn ystod y gweithdy hamddenol hwn, sy'n para dwy awr, bydd Victoria yn eich arwain gam wrth gam wrth i chi greu eich torch ddrws Nadolig draddodiadol eich hun. Byddwch yn gweithio gydag amrywiaeth hael o ddeiliach tymhorol, addurniadau gwyliol, deunyddiau naturiol a rhubanau, sy'n eich galluogi i greu plethdorch sy'n adlewyrchu eich steil personol.

Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol o greu trefniadau blodau. Dewch draw, mwynhewch yr awyrgylch Nadoligaidd, a threuliwch amser yn creu rhywbeth hardd.

Mae te neu goffi a blwch o ddanteithion Nadoligaidd blasus hefyd wedi'u cynnwys i chi eu mwynhau yn ystod y gweithdy.

 

Mae eich profiad yn cynnwys:

  • Gweithdy dwy awr dan arweiniad i greu plethdorchau Nadolig
  • Detholiad hael o lystyfiant tymhorol ffres
  • Addurniadau Nadoligaidd, deunyddiau naturiol a rhuban
  • Yr holl offer a deunyddiau sydd eu hangen i greu torchau
  • Hyfforddiant cyfeillgar, cam wrth gam
  • Te neu goffi
  • Blwch o ddanteithion Nadoligaidd
  • Eich torch Nadolig orffenedig i fynd â hi adref

 

Mae'r holl ddeunyddiau wedi'u cynnwys. Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig ac mae angen archebu ymlaen llaw.

Dewch gyda ffrindiau, dewch â rhywun arbennig, neu mwynhewch ychydig o amser creadigol i chi'ch hun wrth i ni groesawu'r Nadolig gyda dail ffres, danteithion yr ŵyl a harddwch bythol Amgueddfa Parc Howard.

 

Manylion

Dyddiad: Dydd Sadwrn 5ed Rhagfyr 2026
Amser: 11.30yb - 1.30yp
Lleoliad: Parc Howard Museum, Llanelli
Pris: £69 y person
Addas ar gyfer: Oedolion a dechreuwyr llwyr