Ymweliadau Grŵp yn Amgueddfa Parc Howard

Rydym yn croesawu grwpiau o bob maint i Amgueddfa Parc Howard i gael eu hysbrydoli gan y straeon am greadigrwydd ac arloesedd sy'n gwneud Llanelli yn lle mor arbennig.
Os ydych chi'n bwriadu ymweld â ni fel rhan o grŵp o 10 o bobl neu fwy, gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu gyda ni o leiaf saith diwrnod ymlaen llaw. Mae hyn yn ein helpu i sicrhau eich bod yn cael y gorau o'ch ymweliad.
Gallwch archebu drwy ffonio 01554 742220 yn ystod yr oriau agor arferol neu drwy anfon e-bost at gwybodaeth@cofgar.cymru.
Os oes gan unrhyw un yn eich grŵp anghenion hygyrchedd, edrychwch ar ein tudalen Hygyrchedd.

Ysgolion a grwpiau addysg
Cynlluniwch eich ymweliad ysgol ag Amgueddfa Parc Howard gyda'r canllaw defnyddiol hwn.
Dysgu mwySut i gyrraedd yma
Parcio
Coetsiau
Mae croeso i grwpiau ar fysiau coets ollwng a chasglu gwesteion ar y brif ffordd y tu allan i fynedfa'r parc.
Cludiant Cyhoeddus
Mae gan Lanelli orsaf fysiau ac orsaf drenau gyda chysylltiadau da â rhannau eraill o Gymru a thu hwnt.
Mae'r orsaf fysiau yn cynnig gwasanaethau rheolaidd i'r gogledd i Gaerfyrddin ac i'r dwyrain i Rydaman ac Abertawe.
Mae'r orsaf drenau yn cynnig gwasanaethau rheolaidd i'r gogledd i Gaerfyrddin ac i'r dwyrain i Abertawe a Chaerdydd.
Dysgwch fwy am sut i gyrraedd yma gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar ein tudalen Ymweld.

Beth i'w weld
Chwaraewch, darganfyddwch, a dychmygwch yn Amgueddfa Parc Howard yng nghanol Llanelli.
Dysgu mwyTeithiau Tywysedig
Teithiau Amgueddfa
Rydym yn falch o gynnig teithiau tywys o amgylch yr Amgueddfa i grwpiau, yn para hyd at awr ac yn cael eu harwain gan un o'n haelodau staff gwybodus. Bydd y daith yn eich cyflwyno i hanes Parc Howard a Llanelli ac yn tynnu sylw at rai gwrthrychau ac arddangosfeydd allweddol o'r casgliad.
Os hoffech archebu taith ar gyfer eich grŵp, codwn ffi o £5 y pen; gellir gwneud y taliad ymlaen llaw neu ar y diwrnod.
Rydym yn argymell uchafswm o 15 o bobl fesul taith er mwyn sicrhau'r profiad gorau i'ch grŵp. Ar gyfer grwpiau mwy, rydym yn argymell rhannu'r grŵp fel bod rhai yn ymuno â thaith tra bod eraill yn archwilio'r Amgueddfa a'r Parc. Gall y grwpiau wedyn gyfnewid lleoedd ar ôl pob taith.
