Amdani ag Amgueddfa Cyflymder
Ein Stori
Amgueddfa Cyflymder yw aelod diweddaraf teulu CofGâr. Cafodd yr amgueddfa, a agorwyd ym mis Mai 2023, ei chreu fel elfen ganolog o Brosiect uchelgeisiol Denu Twristiaid Pentywyn, sy'n anelu at hyrwyddo treftadaeth ddiwylliannol a naturiol Pentywyn. Roedd y prosiect hefyd yn cynnwys datblygu llety 'Caban' drws nesaf i'r amgueddfa a chyfleusterau eraill o amgylch y pentref.
Cymerodd yr amgueddfa newydd le'r Amgueddfa Cyflymder flaenorol ar yr un safle. Bu'r amgueddfa wreiddiol ar agor rhwng 1997 a 2018, gan adrodd hanes yr ymdrechion eiconig i dorri'r record cyflymder tir ar draeth Pentywyn. Tyfodd ei phoblogrwydd ymhlith ymwelwyr yn gyflym iawn, gan ei gwneud yn rhy fach ar gyfer y galw.
Cafodd yr amgueddfa newydd ei dylunio i fod yn hwyl, yn rhyngweithiol ac yn enghraifft o gynaliadwyedd. Fe'i hadeiladwyd yn unol ag egwyddorion Passivhaus; mae arddangosfeydd ymarferol yn dangos gwyddoniaeth cyflymder, tra bod arddangosfeydd clyweledol yn amlygu drama rasio modur. Am hyd at 10 wythnos y flwyddyn, mae'r amgueddfa hefyd yn gartref i'r car enwog a dorrodd record cyflymder tir y byd, sy'n cael ei adnabod fel 'Babs'.
Yn 2024, ar ddiwedd ei blwyddyn lawn gyntaf ar agor, enillodd yr amgueddfa wobr yr Atyniad Gorau yng Ngwobrau Cymdeithas Twristiaeth Sir Gaerfyrddin. Yn fuan wedyn, cadarnhawyd statws amgueddfa achrededig iddi gan Lywodraeth Cymru. Yna, yn 2025, cyrhaeddodd yr amgueddfa rownd derfynol Gwobrau Twristiaeth Ryngwladol y British Guild of Travel Writers.
