Skip to content
Amgueddfa Cyflymder | Ar agor tan 4:30 heddiw.

Ymweld ag Amgueddfa Cyflymder

Os ydych chi'n chwilio am ddiwrnod allan hwyliog, rhyngweithiol ac addysgiadol, peidiwch ag edrych ymhellach!

Mae Amgueddfa Cyflymder newydd sbon yn adrodd stori eiconig Traeth Pentywyn a'r recordiau chwaraeon enwog a osodwyd yno, mewn ffordd ryngweithiol ac ymarferol. Mae arddangosfeydd parhaol yn dangos hanes chwaraeon modur ar y traeth trwy arddangosiadau clyweledol ac eitemau gan y bobl a fu'n rasio yno. Mae eitemau a fenthycwyd gan Amgueddfa Cymru ac Amgueddfa Moduron Genedlaethol – fel cynffon car *Bluebird* Syr Malcolm Campbell – yn ychwanegu ychydig o hud a lledrith at y straeon.

Sylwch y gall ein harddangosfeydd newid, ac nad yw rhai eitemau – fel *Babs* – yma ond am ychydig wythnosau o'r flwyddyn. Os hoffech chi weld eitem benodol (hyd yn oed Babs!), ffoniwch 01267 224611 (yn ystod oriau agor) neu anfonwch e-bost at gwybodaeth@cofgar.cymru yn gyntaf.

Logo displaying the 'Quality Assured' mark of a Visit Wales attraction. White text on a red background, with a red dragon at the bottom over a white background.
Sicrwydd Ansawdd Croeso Cymru
Wide interior view of the Museum of Land Speed exhibition gallery, featuring the restored land-speed record car BABS displayed at the centre of the space. The streamlined white vehicle is surrounded by interpretation panels, display cases containing historic artefacts, and interactive digital exhibits exploring Pendine’s world speed records.

Beth i'w weld

Darganfyddwch y chwedlau cyflymder ar dir a wnaeth hanes ar Draeth Pentywyn.

Dysgu mwy

Oriau agor

Ionawr:
Dyddiau Iau i ddyddiau Sul, 10yb i 4:30yp

Chwefror:
Dyddiau Mercher i ddyddiau Sul, 10yb i 5yp

Mawrth - Hydref:
Dyddiau Mawrth i ddyddiau Sul, 10yb i 5yp

Tachwedd:
Dyddiau Mercher i ddyddiau Sul, 10yb i 5yp

Rhagfyr:
Dyddiau Iau i ddyddiau Sul, 10yb i 4:30yp

Ar gau ar Ddiwrnod Nadolig a Gŵyl San Steffan

Tocynnau

Mae pob tocyn rydych chi'n ei brynu yn ein cefnogi i drefnu mwy o weithgareddau a digwyddiadau rydych chi'n eu mwynhau.

Tocynnau Dydd

Oedolion: £7.50

Plant (5-18 oed): £4.20

Plant (o dan 5 oed): Am ddim

Myfyrwyr a phobl anabl: £6.50

Gofalwyr: Am ddim

Rydym yn cynnig gostyngiad o 10% ar brisiau'r tocynnau uchod i deuluoedd neu grwpiau o bedwar unigolyn neu fwy sy'n cyrraedd gyda'i gilydd.

Tocynnau ar gyfer Safleoedd Lluosog

Mae ein tocynnau aml-safle yn cynnig nifer diderfyn o ymweliadau â'r Amgueddfa Cyflymder a'n safle chwaer, Cartref Dylan Thomas yn Nhalacharn, am 7 diwrnod o'r diwrnod y cânt eu prynu.

Mae'r ddau safle wedi'u lleoli dim ond ychydig filltiroedd oddi wrth ei gilydd ar hyd Llwybr Arfordir Cymru godidog. Mae cost un tocyn aml-safle yn llai na chyfanswm pris tocynnau dydd unigol ar gyfer y ddau safle. Gwerth gwych!

Oedolion: £10.85

Plant (5-18 oed): £6.00

Myfyrwyr a phobl anabl: £9.80

Aeoldau Art Pass

Mae ymwelwyr sydd â National Art Pass dilys yn cael mynediad am ddim i'r Amgueddfa Cyflymder ​​a gostyngiad o 10% yn y siop anrhegion.

Dangoswch eich cerdyn aelodaeth wrth y ddesg dderbyn i gael eich tocyn am ddim.

Dewch i'n gweld

Cysylltwch â ni

Rydym yn annog pob ymwelydd i ystyried dulliau teithio cynaliadwy wrth ymweld â'r amgueddfa.

Ar y bws

Mae Amgueddfa Cyflymder yn agos at lwybr bws cyhoeddus sy'n cysylltu â llawer o drefi a phentrefi yn yr ardal.

O Gaerfyrddin

Mae gwasanaeth 222 o Gaerfyrddin i Bentywyn yn stopio gyferbyn â phrif faes parcio'r Amgueddfa unwaith yn y bore a thair gwaith yn y prynhawn. Mae'r gwasanaeth yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sadwrn (ac eithrio Gwyliau Banc).

O Ddinbych-y-pysgod

Mae gwasanaeth 351 o Ddinbych-y-pysgod i Bentywyn (trwy Saundersfoot) yn stopio gyferbyn â phrif faes parcio'r Amgueddfa unwaith yn y bore a dwywaith yn y prynhawn. Mae'r gwasanaeth yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sadwrn (ac eithrio Gwyliau Banc).

Ar y trên

Mae'r orsaf drenau agosaf at Bentywyn yn Hendy-gwyn, ger y ffordd B4328. Mae trenau'n stopio yma'n rheolaidd, gan ddod o gyfeiriad Caerfyrddin a Dinbych-y-pysgod.

O Whitland, mae dau wasanaeth bws yn cysylltu â Sanclêr; oddi yno gallwch ddal y gwasanaeth 222 i Bentywyn.

Mae'r gwasanaeth 224 (Hendy-gwyn i Gaerfyrddin) yn stopio yn Gorsaf Drenau Hendy-gwyn unwaith yn oriau mân y bore ac unwaith yng nghanol y prynhawn, ac yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sadwrn (ac eithrio Gwyliau Banc).

Mae'r gwasanaeth 322 (Hwlffordd i Gaerfyrddin) yn stopio yn Keefe House ac yn siop Spar Hendy-gwyn – y ddau o fewn taith gerdded 5 munud o'r orsaf drenau – unwaith yn y bore a dwywaith yn y prynhawn. Mae'r gwasanaeth yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sadwrn (ac eithrio Gwyliau Banc).

Ar feic

Mae Llwybr Beicio Cenedlaethol 4 yn mynd trwy Talacharn, yna'n anelu i'r gogledd o Bentywyn tuag at Marros yn y gorllewin, gan barhau o gwmpas Sir Benfro. Yn y dwyrain, mae Llwybr 4 yn cysylltu â Chaerfyrddin a Dyffryn Tywi, lle gallwch ymweld ag Amgueddfa Sir Gâr cyn mynd i Landeilo ar hyd Llwybr Dyffryn Tywi.

Mae gwyriad byr oddi ar Lwybr 4 i'r gorllewin yn eich arwain at Bentywyn ac Amgueddfa Cyflymder. Gallwch brynu tocyn aml-safle sy'n rhoi mynediad i chi yma ac i Cartref Dylan Thomas yn Nhalacharn cynifer o weithiau ag y dymunwch dros gyfnod o 7 diwrnod.

Ar gar neu ar feic modur

Cyfarwyddiadau

O'r dwyrain

Y ffordd orau o ddod o hyd i'r Amgueddfa Cyflymder yw teithio ar hyd yr A40 o Gaerfyrddin tuag at Sanclêr. Trowch oddi ar y ffordd ychydig cyn y gylchfan i ymuno â'r lôn ymuno, yna trowch i'r chwith a theithio tua'r de ar hyd yr A4066 tuag at Thalacharn. Parhewch ar hyd yr A4066 i mewn i Bentywyn a chwiliwch am yr arwydd brown yng nghanol y pentref sy'n pwyntio i'r dde, i'r prif faes parcio.

O'r gorllewin

Os ydych chi'n ymweld o'r gorllewin, mae dau opsiwn o ran y llwybr. Gallwch ddilyn yr A40 i gylchfan Sanclêr, ac yna cymryd yr allanfa gyntaf i lawr Ffordd Dinbych-y-pysgod (A4066). Wrth y goleuadau traffig yng nghanol y dref, trowch i'r dde ar hyd y Stryd Fawr (A4066) sy'n arwain tua'r de tuag at Thalacharn. Parhewch ar hyd yr A4066 i mewn i Bendine a chwiliwch am yr arwydd brown yng nghanol y pentref sy'n pwyntio i'r dde, i'r prif faes parcio.

Fel arall, os ydych chi'n dod o gyfeiriad y de-orllewin, teithiwch ar hyd yr A477 a throwch i'r dde tuag at Red Roses ar ôl mynd heibio Llanteg a Fferm Crunwere. Unwaith y byddwch yn Red Roses, trowch i'r dde eto ar hyd y B4314 ac arhoswch ar y ffordd hon nes i chi gyrraedd Pentywyn. Dilynwch y B4314 i lawr allt Pentywyn nes iddi ymuno â'r A4066 ar ôl trofa'r Springwell Inn, yna ewch yn syth ymlaen nes i chi weld arwydd brown yr amgueddfa yn pwyntio i'r dde i'r prif faes parcio.

Ein cyfeiriad yw Amgueddfa Cyflymder, Heol y Gors, Pentywyn, SA33 4NY.

 

Parcio

Mae gan Bentywyn nifer o ardaloedd parcio ar gyfer ceir a beiciau modur.

Yn union oddi ar yr A4066, mae maes parcio mawr 'talu ac arddangos'.

Islaw'r amgueddfa, mae maes parcio mawr ar gyfer ceir a beiciau modur.

Mynediad

Parcio

Mae pum lle parcio hygyrch wrth ymyl y ciosgau talu. Fe welwch y rhain ar eich ochr dde wrth fynd i mewn i'r maes parcio.

Llwybr i'r Amgueddfa

Mae llwybr hygyrch yn arwain o'r lleoedd parcio hygyrch a'r ciosgau talu i'r Amgueddfa.

Mae'r llwybr yn addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn ac yn arwain i fyny llethr tuag at y Cylch Digwyddiadau a llety'r Caban.

Mynedfa'r Amgueddfa

Mae mynedfa'r Amgueddfa heb risiau ac mae'n addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn.

Cŵn Cymorth

Rydym yn croesawu cŵn cymorth sydd wedi'u hyfforddi'n addas. Darllenwch y canllawiau mynediad isod i gael rhagor o wybodaeth am ymweld â'r amgueddfa gyda chi cymorth.

Mwy o wybodaeth am hygyrchedd

Bwyta, yfed a siopa

Mae siop anrhegion yr amgueddfa yn cynnig ystod eang o gynhyrchion sydd wedi'u hysbrydoli gan hanes moduro Pentywyn a'r amgylchedd lleol hardd. O geir model i fagnetau, ac o lyfrau i brintiau o 'Babs', fe welwch rywbeth i bob oedran.

Os ydych chi'n teimlo'n llwglyd, beth am ymweld â bwyty Caban drws nesaf i'r Amgueddfa, neu gael rhywbeth i'w fwyta yn un o'r nifer o gaffis lleol eraill a mwynhau picnic ar y traeth!

Shop

Ffilmio a ffotograffiaeth

Ffilmio

Caniateir fideos byr at ddefnydd personol yn unig, ar yr amod bod caniatâd yn cael ei geisio gan y staff ar y safle yn gyntaf. Gellir caniatáu fideos hyd at 5 eiliad o hyd.

Ar gyfer pob math arall o ffilmio, gan gynnwys cynyrchiadau masnachol, gofynnir i chi geisio caniatâd gan dîm Marchnata a’r Cyfryngau Cyngor Sir Caerfyrddin drwy lenwi’r ffurflen hon.

Ffotograffiaeth

Mae croeso i chi dynnu lluniau at ddefnydd personol. Ac os byddwch yn eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol, peidiwch ag anghofio ein tagio ni yn @cofgar.wales a defnyddio #AmgueddfaCyflymder ​​neu #MOLS.

Codir tâl am ffotograffiaeth fasnachol neu ffotograffiaeth priodas yn yr amgueddfa. Cysylltwch â ni yn info@cofgar.wales i gael rhagor o wybodaeth, neu edrychwch ar ein tudalennau ar gyfer llogi lleoliadau.

Mae'r holl arian a godir drwy'r taliadau hyn yn ein helpu i sicrhau bod Amgueddfa Cyflymder yn edrych yn wych, ac i barhau i gynnal digwyddiadau ac arddangosfeydd arbennig.