Beth i'w weld yn Amgueddfa Cyflymder

Mae Amgueddfa Cyflymder yn adrodd stori eiconig Traeth Pentywyn a'r recordiau chwaraeon enwog a osodwyd yno, mewn ffordd ryngweithiol ac ymgolli.
Mae arddangosfeydd parhaol yn dangos hanes chwaraeon modur ar y traeth trwy arddangosfeydd clyweledol ac eitemau gan y bobl a fu'n rasio yno. Mae eitemau a fenthycwyd gan Amgueddfa Cymru ac Amgueddfa Moduron Genedlaethol y DU – fel cynffon car Bluebird Syr Malcolm Campbell – yn ychwanegu ychydig o hud a llewyrch at y straeon.
Cyfleusterau
Mynediad
I gael gwybodaeth am gyfleusterau ac adnoddau ar gyfer pobl ag anghenion hygyrchedd, gweler y dudalen Hygyrchedd.
Toiledau
Mae gennym ddau doiled niwtral o ran rhyw ger ardal y Dderbynfa yn yr Amgueddfa.
Mae un o'r toiledau hyn hefyd yn doiled hygyrch.
Cyfleusterau newid babanod
Mae cyfleusterau newid babanod ar gael yn y toiled hygyrch niwtral o ran rhyw, ger ardal y dderbynfa.
Bygis a chadeiriau gwthio
Mae'r Amgueddfa yn hygyrch heb risiau ac ar dir gwastad. Mae'n addas ar gyfer pob math o gadeiriau gwthio a bygis.
Ffilmio a ffotograffiaeth
Ffilmio
Rhaid ceisio caniatâd gan y staff ar y safle cyn ffilmio unrhyw fideos. Dim ond fideos byr ar gyfer defnydd personol, hyd at 5 eiliad o hyd, a ganiateir.
Ni chaniateir uwchlwytho unrhyw fideos o'r Amgueddfa i YouTube na gwefannau fideo ar-lein eraill heb ganiatâd ysgrifenedig gan aelod o dîm CofGâr, a geir drwy gwybodaeth@cofgar.cymru.
Ar gyfer pob math arall o ffilmio, gan gynnwys cynyrchiadau masnachol, gofynnir i chi geisio caniatâd gan dîm Marchnata a'r Cyfryngau Cyngor Sir Gaerfyrddin drwy lenwi'r ffurflen hon. Rhowch wybod i ni yn gwybodaeth@cofgar.cymru os ydych wedi cyflwyno ffurflen cais i ffilmio.
Ffotograffiaeth
Mae croeso i chi dynnu lluniau at ddefnydd personol. Ac os byddwch yn eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol, peidiwch ag anghofio ein tagio ni yn @cofgar.wales a defnyddio #AmgueddfaCyflymder neu #MOLS.
Ni chaniateir defnyddio fflach wrth dynnu lluniau unrhyw le yn yr Amgueddfa. Bydd arwyddion yn nodi os oes cyfyngiadau ar dynnu lluniau mewn arddangosfeydd penodol.
Codir tâl am dynnu lluniau at ddibenion masnachol neu ar gyfer priodasau yn yr Amgueddfa. Cysylltwch â ni yn gwybodaeth@cofgar.cymru i gael rhagor o wybodaeth, neu edrychwch ar ein tudalennau 'Llogi'.
Mae'r holl arian a godir drwy'r taliadau hyn yn cefnogi ein rhaglenni cyhoeddus yn yr Amgueddfa, gan gynnwys gweithgareddau, digwyddiadau a sesiynau ysgol.
Yn yr Amgueddfa
Dyma gipolwg ar yr hyn a welwch yn Amgueddfa Cyflymder.

Darganfod
Peidiwch â cholli profiad fideo gwych Babs!

Camwch i fyd ehangach rasio
Darganfyddwch dreftadaeth rasio gyfoethog Traeth Pentywyn, ymhell cyn i recordiau cyflymder ar dir ddwyn y sylw.

Gweler BABS yn Amgueddfa Cyflymder
Gweler Babs yn ei gofod arbennig yn yr amgueddfa.

Pentywyn - Y Hanes Cudd
Dysgwch am hanes Pentywyn yn ystod y rhyfel a byd cudd safle'r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Canolfan Beirianneg
Rhowch gynnig arni ac arbrofwch wrth ddylunio ar gyfer cyflymder yn y gofod rhyngweithiol hwn.

Gwyddoniaeth y Tywod
Pam mae'r traeth ym Mhentywyn mor arbennig? Mae'r arddangosfa hon yn ateb y cwestiwn hwnnw a mwy!

