Skip to content
Amgueddfa Cyflymder | Ar agor tan 4:30 heddiw.
Llawr Gwaelod

Darganfyddwch brofiad fideo trochi Babs

Peidiwch â cholli profiad fideo gwych Babs, sy'n eich galluogi i deimlo'r grymoedd fel pe baech yn gyrru'r car rasio chwedlonol ar hyd y tywod!

Immersive museum projection room displaying historic land-speed racing footage across three walls. The central screen shows the streamlined racing car “BABS” travelling at speed across Pendine Sands, with the driver seated in the open cockpit.

Wrth wraidd yr Amgueddfa Cyflymder mae'r straeon am feiddgarwch a dyfeisgarwch a yrrodd yr ymdrechion i dorri’r record cyflymder tir ar Draeth Pentywyn. Er na fydd y rhan fwyaf ohonon ni byth yn cael y cyfle i roi cynnig ar rasio peiriant dwy dunnell ar hyd y traeth, gallwn ni roi'r peth gorau nesaf i chi.

Mae ein profiad fideo rhyngweithiol yn efelychu'r dirgryniadau, y gwynt cryf, a sŵn aruthrol gyrru ar gyflymder yn Babs, car rasio chwedlonol J.G. Parry-Thomas. Ar ôl dechrau’r daith yn ddigon tawel, mae'r antur yn dwysáu, wrth i chi weld y tywod yn ysgubo heibio o safbwynt y gyrrwr wrth i'r stopwatsh dicio i lawr. Mae'n daith wefreiddiol!

Mae'r fideo yn ail-greu rhediad Babs ar y traeth a wnaeth dorri'r record ym mis Ebrill 1926. Wedi'i yrru gan y Cymro, Parry-Thomas, cyrhaeddodd y car gyflymder uchaf dros y filltir wib o fwy na 171mya. Felly dyma oedd y car cyflymaf yn y byd am bron i flwyddyn hyd at ddechrau 1927, gan fod yn 18mya yn uwch na'r record flaenorol – cynnydd o dros 10%.

Ar ôl gosod dwy record cyflymder y byd ym Mhentywyn ym 1924 a 1925, daeth Syr Michael Campbell yn ôl ym 1927 i adennill y record oddi wrth Parry-Thomas yn ei gar Napier Bluebird newydd. Fodd bynnag, pan geisiodd Parry-Thomas adennill ei deitl fis yn ddiweddarach, cafodd ei ladd mewn modd trasig wrth i Babs droi drosodd ar gyflymder. Dangosodd hyn pa mor beryglus yw gwthio'r ffiniau fel gyrrwr.