Skip to content
Amgueddfa Cyflymder | Ar agor tan 4:30 heddiw.
Llawr Gwaelod

Canolfan Beirianneg

Rhowch gynnig arni ac arbrofwch wrth ddylunio ar gyfer cyflymder yn y gofod rhyngweithiol hwn.

Workshop at Museum of Land Speed
A hand holds two toy cars on race tracks

Yn barod i roi cynnig ar bethau eich hun? Y Ganolfan Beirianneg yw'r lle i fynd!

Yma, cewch wybod mwy am y wyddoniaeth y tu ôl i'r cyflymder. Dysgwch am y dechnoleg sy'n gwneud cyflymderau uchel yn bosibl, a gwelwch yoffer y mae mecanegwyr yn eu defnyddio i gael y gorau o'u peiriannau.

Pam na fanteisiwch ar y cyfle i ddarganfod sut mae siâp y cerbyd yn effeithio ar ei gyflymder? Rhowch gynnig ar un o'r modelau yn y twnnel gwynt a theimlwch y gwahaniaeth rhwng y gwahanol siapiau. Neu beth am brofi effeithiau ffrithiant a disgyrchiant? Dewiswch eich hoff gar, rhowch ef yn y safle cywir ar ben y trac prawf, yna gadewch iddo fynd a gweld pa un sydd gyflymaf.