Llawr Gwaelod
Pentywyn - Y Hanes Cudd
Dysgwch am hanes Pentywyn yn ystod y rhyfel a byd cudd safle'r Weinyddiaeth Amddiffyn.


Nid cyflymder yw popeth yn Pentywyn. Mae gan y pentref hwn ochr nad yw llawer yn ymwybodol ohoni.
Ers yr Ail Ryfel Byd, mae Pentywyn wedi bod yn gartref i'r Weinyddiaeth Amddiffyn; dewiswyd y lleoliad tawel hwn yng nghefn gwlad gorllewin Cymru am reswm da iawn: roedd yn berffaith ar gyfer paratoi ar gyfer glaniadau D-Day.
Mae'r arddangosfa hon yn olrhain hanes y safle ac yn rhoi cipolwg i chi y tu hwnt i'r ffensys diogelwch. Dysgwch am y wyddoniaeth flaengar sy'n dal i gael ei chynnal yno, a pham mae rhan o'r traeth yn aml ar gau yn ystod yr wythnos. Hyd heddiw, mae Pentywyn yn parhau i fod yn ganolfan wyddoniaeth yng ngorllewin Cymru.
