Skip to content
Amgueddfa Cyflymder | Ar agor tan 4:30 heddiw.
Arddangosfa

Amy Johnson: Bywyd mewn Lluniau

Mae'r arddangosfa hon yn cynnwys detholiad o ddelweddau o'r cofiant ffotograffig unigryw a hardd, 'Amy Johnson: A Life in Pictures', a gyhoeddwyd yn 2016 ar achlysur 75fed pen-blwydd ei marwolaeth.

Historic black-and-white portrait photograph showing a person standing outdoors beside an early motor car and the entrance to a building with large sash windows. The person is dressed in a short-sleeved collared blouse and a light-coloured skirt, holding a small item in one hand.

Ahedwraig Arloesol

Ganwyd Amy Johnson yn Hull ar 1 Gorffennaf 1903, ac aeth ati i ddod yn un o'r sêr rhyngwladol gwirioneddol cyntaf bron dros nos, yn dilyn ei hediad unigol rhyfeddol o'r DU i Awstralia ym 1930.

Ym 1933, tra oedd yn briod â Jim Mollison, cychwynnodd hi a'i gŵr ar daith o Draeth Pendine gyda'r nod o fod y cwpl priod cyntaf i groesi'r Iwerydd. Adroddir yr hanes hwn mewn man arall yn yr Amgueddfa. Aeth Amy ymlaen i dorri nifer o recordiau hedfan cyn colli ei bywyd wrth wasanaethu ei gwlad tra'n hedfan i'r Air Transport Auxiliary ym 1941.

Mae'r arddangosfa hon yn adrodd hanes ei bywyd rhyfeddol trwy gasgliad gwych o ffotograffau cyfoes o amrywiaeth eang o ffynonellau.