Skip to content
Amgueddfa Cyflymder | Ar agor tan 4:30 heddiw.

Teuluoedd yn Amgueddfa Cyflymder

Participants take part in a hands-on family workshop around a table in a bright learning space. Three people sit together selecting materials from red trays filled with pens, craft supplies, and wooden dowels for a creative activity.

Rydym yn croesawu ymwelwyr o bob oed i ddarganfod gwyddoniaeth y tywod!

Mae Amgueddfa Cyflymder yn edrych dros Draeth enwog Pentywyn – lleoliad ar gyfer rasio moduron, ymgeisiau i dorri record cyflymder tir, a gwyliau teuluol niferus ers dros ganrif.

Wedi'i gynllunio i fod yn brofiad ymarferol sy'n addas i deuluoedd, mae'r Amgueddfa yn berffaith ar gyfer diwrnod allan i'r teulu, beth bynnag fo'r tywydd.

 

 

Y 5 peth gorau i'w gwneud yn yr Amgueddfa | Top 5 things to do at the Museum

Immersive museum projection room displaying historic land-speed racing footage across three walls. The central screen shows the streamlined racing car “BABS” travelling at speed across Pendine Sands, with the driver seated in the open cockpit.
1. Profwch y wefr o rasio ar hyd y traeth yn ogof fideo Babs.

1. Experience the thrill of racing along the Sands in the Babs video cave

A hand holds two toy cars on race tracks
2. Sicrhewch yr amser cyflymaf ar y trac

2. Get the fastest time on the track

Close-up photograph of colourful racing-themed overalls hanging on coat hooks inside an exhibition space.
3. Gwisgwch i greu argraff gyda'n dillad rasio.

3. Dress to impress with our racing gear

Visitor looking closely at an exhibition display inside a museum gallery. The individual stands behind a glass display case, examining an object in the foreground that is softly out of focus.
4. Cwblhewch y cwis ac ennill bathodyn

4. Complete the quiz and win a badge

Adventure playground. In the foreground is a small artificial grass mound with steps either side and two tunnels in the middle. Next to it is an orange car structure to sit in. In the background is a pirate ship structure that can be climbed on.
5. Darganfyddwch yr awyr agored gyda golff gwallgof neu'r maes chwarae antur.

5. Discover the outdoors with crazy golf or the adventure playground

Gwych dysgu amdano ac yn brofiad trochi i'r teulu cyfan

Teulu, Rutland, Hydref 2024

Cyfleusterau i deuluoedd

Bwyd ac yfed

Mae Pentywyn yn llawn lleoedd gwych i fwyta, i gyd o fewn pellter cerdded byr. Rydym yn argymell bwyty Caban, sydd drws nesaf i'r Amgueddfa; mae'n gweini brecwastau poeth a chinioedd, ac mae ganddo far trwyddedig llawn.

Mae croeso i chi eistedd dan do neu yn yr awyr agored, ac mae digon o leoedd o amgylch y pentref ac ar y traeth lle gallwch fwynhau'r awyrgylch.

Cyfleusterau newid babanod

Ar gael yn y toiled hygyrch niwtral o ran rhyw, ger ardal y dderbynfa y tu thewn i'r Amgueddfa.

Bygis a chadeiriau gwthio

Mae'r Amgueddfa'n gwbl hygyrch i bob math o gertiau babanod a chadeiriau gwthio. Mae'r Amgueddfa gyfan wedi'i threfnu ar dir gwastad ac yn rhydd o risiau.

Bwydo ar y fron

Mae croeso i chi fwydo ar y fron unrhyw le yn yr Amgueddfa.

Gofynnwch i'n tîm Gwasanaethau Ymwelwyr eich cyfeirio at ein mannau tawelach os yw'n well gennych fwy o breifatrwydd.

Hygyrchedd

I gael rhagor o wybodaeth am hygyrchedd yn yr Amgueddfa, ewch i'n tudalen Hygyrchedd.