Ymweliadau Grŵp â Chartref Dylan Thomas
Rydym yn croesawu grwpiau o bob maint i'r Cartref i gael eu hysbrydoli gan fywyd a gwaith Dylan Thomas, yn ogystal â harddwch Talacharn ac aber Afon Taf.
Os ydych yn bwriadu ymweld â ni fel rhan o grŵp o 10 o bobl neu fwy, gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu lle o leiaf saith diwrnod ymlaen llaw. Mae hyn yn ein helpu i sicrhau eich bod yn cael y gorau o'ch ymweliad.
Gallwch archebu drwy ffonio yn ystod oriau agor arferol ar 01267 224696 neu drwy anfon e-bost at cofgar@sirgar.uk.
Os oes gan unrhyw un yn eich grŵp anghenion hygyrchedd, edrychwch ar ein tudalen Hygyrchedd.

Ysgolion a grwpiau addysg
Cynlluniwch eich ymweliad ysgol â Chartref Dylan Thomas gyda'r canllaw defnyddiol hwn.
Dysgu mwySut i gyrraedd yma
Parcio
Coetsys
Mae lle i barcio bysiau mawr ym Maes Parcio Green Banks, i lawr yr allt o Gastell Talacharn.
Fel arall, mae croeso i chi ddefnyddio'r meysydd parcio yn Pentywyn gerllaw, sydd dim ond 10 munud mewn car i'r gorllewin ar hyd yr A4066.
Mae ein Tocynnau Aml-safle yn cynnig nifer diderfyn o ymweliadau â Chartref Dylan Thomas a'n safle chwaer, Amgueddfa Cyflymder ym Mhentywyn, am gyfnod o 7 diwrnod o'r diwrnod y cânt eu prynu.
Mae'r ddau safle wedi'u lleoli dim ond ychydig filltiroedd oddi wrth ei gilydd ar hyd Llwybr Arfordir Cymru godidog. Mae cost un tocyn aml-safle yn llai na chyfanswm pris tocynnau dydd unigol ar gyfer y ddau safle. Gweler ein tudalen 'Ymweld' am ragor o wybodaeth.
Cludiant Cyhoeddus
Mae bysiau'n rhedeg pedair gwaith y dydd o Gaerfyrddin drwy Talacharn, ac mae gwasanaethau rheolaidd yn galw yn orsaf drenau Hendy-gwyn o Gaerfyrddin a Dinbych-y-pysgod.
Dysgwch ragor am gyrraedd yma drwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar ein tudalen Ymweld.

Teithiau Tywys
Teithiau o'r Sied Ysgrifennu
Rydym yn falch o gynnig teithiau tywys o amgylch Sied Ysgrifennu Dylan a’r Cartref i grwpiau; bydd y daith yn para hyd at awr ac yn cael ei harwain gan un o’n haelodau staff gwybodus. Bydd y daith yn eich cyflwyno i hanes cyfnod Dylan yn y Cartref ac yn rhoi cipolwg ar sut fywyd oedd yno i’w deulu.
Os hoffech archebu taith ar gyfer eich grŵp, y gost yw £5 y pen, a gellir talu ymlaen llaw neu ar y diwrnod.
Rydym yn argymell uchafswm o 10 o bobl fesul taith er mwyn sicrhau’r profiad gorau i’ch grŵp. Ar gyfer grwpiau mwy, rydym yn argymell rhannu’r grŵp fel bod rhai yn ymuno â thaith tra bod eraill yn ymlacio yn Y Gegin Gartref. Gall y grwpiau wedyn gyfnewid lleoedd ar ôl pob taith.
