Skip to content
Cartref Dylan Thomas

Beth i'w weld yng Nghartref Dylan Thomas

Black and white photo of Dylan turning around to look at the camera from his desk in his Writing Shed
Credyd: Alamy

Cartref Dylan Thomas oedd cartref olaf y bardd Cymreig mawr. Ein nod yw adrodd hanes ei fywyd teuluol yma a sut y dylanwadodd y lle ar ei waith.

Y tu fewn, fe welwch y parlwr teuluol, wedi'i ddodrefnu fel yr oedd yn y 1950au. Er ei fod yn lle heddychlon nawr, roedd yn fan lle byddai Caitlin a'r plant yn chwarae ac yn darllen.

Uchod roedd ystafelloedd gwely'r teulu. Mae ystafell wely Dylan a Caitlin bellach yn ofod arddangos sy'n llawn eitemau cofiadwy o fywyd a gyrfa Dylan. Mae ystafell wely Aeronwy a Colm wedi'i thrawsnewid yn ardal i blant, lle gall teuluoedd dreulio amser yn lluniadu, yn ysgrifennu neu'n chwarae gyda'r teganau.

A pheidiwch â cholli'r Siop Anrhegion a'r Ystafell De. Mae'r Siop Anrhegion yn lle gwych i ddod o hyd i gofroddion sy'n ymwneud â gwaith Dylan a'r ardal leol; mae wedi'i lleoli yn yr hyn a fu unwaith yn ystafell Llewellyn. Yn yr Ystafell De – sydd wedi'i lleoli yn hen ystafell fyw'r teulu, wedi'i hadeiladu'n uniongyrchol ar greigiau'r clogwyn – gallwch fwynhau sgons a chacennau Cymreig cartref.

Cyfleusterau

Mynediad

I gael gwybodaeth am gyfleusterau ac adnoddau ar gyfer pobl ag anghenion hygyrchedd, gweler y dudalen Hygyrchedd.

 

Toiledau

Mae gennym ddau doiled niwtral o ran rhyw ar y safle, yn union oddi ar y teras yng nghefn y Cartref.

Sylwch nad oes gennym doiled hygyrch ar y safle oherwydd lleoliad yr adeilad.

 

Cyfleusterau newid babanod

Mae cyfleusterau newid babanod ar gael yn y toiled sy'n wynebu ardal y patio.

 

Bygis a chadeiriau gwthio

Sylwch nad yw'r Cartref yn hygyrch i gertiau plant a phramiau. Dim ond trwy risiau o Lwybr Arfordir Cymru y gellir cyrraedd yr adeilad, ac mae grisiau y tu thewn sy'n arwain i lawr i'r Ystafell De ac i fyny i'r ardal arddangos.

 

Ffilmio a ffotograffiaeth

Ffilmio

Rhaid ceisio caniatâd gan y staff ar y safle cyn ffilmio unrhyw fideos. Dim ond fideos byr ar gyfer defnydd personol, hyd at 5 eiliad o hyd, a ganiateir.

Ni chaniateir uwchlwytho unrhyw fideos o'r Cartref i YouTube na gwefannau fideo ar-lein eraill heb ganiatâd ysgrifenedig gan aelod o dîm CofGâr, a geir drwy cofgar@sirgar.uk. 

Ar gyfer pob math arall o ffilmio, gan gynnwys cynyrchiadau masnachol, gofynnir i chi geisio caniatâd gan dîm Marchnata a'r Cyfryngau Cyngor Sir Gaerfyrddin drwy lenwi'r ffurflen hon. Rhowch wybod i ni yn cofgar@sirgar.gov.uk os ydych wedi cyflwyno ffurflen cais i ffilmio.

 

 

Ffotograffiaeth

Mae croeso i chi dynnu lluniau at ddefnydd personol. Ac os byddwch yn eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol, peidiwch ag anghofio ein tagio ni yn @cofgar.wales a #CartrefDylanThomas.

Ni chaniateir defnyddio fflach wrth dynnu lluniau unrhyw le y tu fewn i'r Cartref. Bydd arwyddion yn nodi os oes cyfyngiadau ar dynnu lluniau mewn arddangosfeydd penodol.

Codir tâl am dynnu lluniau at ddibenion masnachol neu ar gyfer priodasau yn y Cartref a'r Sied Ysgrifennu. Cysylltwch â ni yn cofgar@sirgar.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth, neu edrychwch ar ein tudalennau 'Llogi'.

Mae'r holl arian a godir drwy'r taliadau hyn yn ein helpu i barhau i warchod a hyrwyddo bywyd a gwaith un o feirdd mwyaf Cymru.

 

Yn y Cartref

Dyma gipolwg ar yr hyn y byddwch yn dod o hyd iddo yng Nghartref Dylan Thomas.

Dylan Thomas Parlour
Llawr Gwaelod

Y Parlwr

Ar ôl mynd drwy'r Siop Anrhegion, byddwch yn camu i fyd Dylan yn Y Parlwr.

    Read more
    Wood beamed room with a circular, tabletop glass dome in the centre. A model town is visible through the glass. Display cases, interpretation panels, and pictures decorate the walls.
    Llawr Cyntaf

    Oriel Arddangosfa

    Ar un adeg, roedd ystafelloedd gwely'r teulu ar lawr uchaf y Cartref. Un ohonynt oedd ystafell wely Dylan a Caitlin, a'r llall oedd ystafell wely Aeronwy a Colm, eu dau blentyn iau. Roedd ystafell Llewelyn i lawr y grisiau, yn y siop anrhegion.

      Read more
      Two halves of a scone on a plate. The scones are topped with jam and clotted cream.
      Llawr Gwaelod

      Y Gegin Cartref

      Mae llawer o ymwelwyr yn ddigon ffodus i gael eu croesawu gan arogl bara a chacennau cri sydd newydd eu pobi cyn gynted ag y byddant yn cerdded drwy'r drws ffrynt.

        Read more
        Boathouse Cafe
        Llawr Isaf

        Y Teras

        Y Teras yw'r lle y dewch o hyd i'r rhan fwyaf o gliwiau ynghylch beth sy'n gwneud y Cartref yn arbennig.

          Read more
          A family visits a small shed beside a coastal path. One adult holds a young child while standing outside the pale green wooden shed, and another child peers through a narrow window in the door.
          Tu allan

          Sied Ysgrifennu

          Sied Ysgrifennu Dylan yw rhan gyntaf yr eiddo y byddwch yn ei weld os ydych yn cerdded ar hyd Llwybr Arfordir Cymru o Dalacharn. Mae llawer o ymwelwyr yn camgymryd hwn am y Cartref!

            Read more
            A person stands beside a lakeside railing near a white waterside cottage, with a wooded shoreline and calm water in the background. The person wears a patterned light-coloured blouse and blue trousers, while the scene is framed by greenery and an overcast sky.

            Ymweld â Chartref Dylan Thomas

            Find out all you need to know about planning a visit to the Boathouse.

            Dysgu mwy