Skip to content
Amgueddfa Sir Gâr

Amdanom ni

Historic black-and-white photograph of a large country house set within landscaped grounds. The building features multiple chimneys, sash windows, and pitched roofs, partially framed by bare tree branches in the foreground.
Palas yr Esgob, dechrau'r 20fed ganrif

Ein Stori

Sefydlwyd Amgueddfa Sir Gâr fel amgueddfa'r sir ym 1908 gan Gymdeithas Hynafiaethwyr Sir Gâr. Wedi ymgartrefu yn Stryd y Cei, Caerfyrddin, canolbwyntiodd yr amgueddfa yn bennaf ar archaeoleg yn ogystal â chrefftau a hanes Gorllewin Cymru. Disgrifiodd cyfarwyddwr Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn y 1920au y casgliad fel un "rhagorol... yn ail yn unig i'r Amgueddfa Genedlaethol."

Trosglwyddwyd yr amgueddfa i Gyngor Sir Gâr ym 1940 yn dilyn marwolaeth George Eyre Evans, y mwyaf gweithgar o'r sylfaenwyr. Daethpwyd o hyd i gartref newydd yn y 1970au pan brynwyd cyn-blasdy Esgobion Tyddewi ym mhentref cyfagos Abergwili; yno, mae'r amgueddfa wedi tyfu a datblygu ers hynny. Y dyddiau hyn, rheolir Parc yr Esgob sy'n amgylchynu'r amgueddfa gan elusen, sef Ymddireidolaeth Parc yr Esgob. Mae CofGâr a'r Ymddiriedolaeth yn gweithio mewn partneriaeth i redeg y safle, gyda chefnogaeth Cegin Stacey, sy'n rhedeg y caffi ar y safle.