Skip to content
Amgueddfa Sir Gâr

Ymweld ag Amgueddfa Sir Gâr

Logo displaying the 'Quality Assured' mark of a Visit Wales attraction. White text on a red background, with a red dragon at the bottom over a white background.
Sicrwydd Ansawdd Croeso Cymru

Mae Amgueddfa Sir Gâr yn adrodd straeon pobl a lleoedd yn Sir Gâr dros gyfnod o 50,000 o flynyddoedd o hanes dynol.

Mae'r amgueddfa wedi'i lleoli yn Hen Balas yr Esgob ym mhentref Abergwili, ger Caerfyrddin yn ne-orllewin Cymru, ers 1978. Rydym yn eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin (CofGâr) ac yn cael ein rhedeg ganddynt.

Rydym yn argymell cyfraniad o £5 i'n helpu i barhau i ofalu am y casgliadau ac i gynnal mwy o weithgareddau a digwyddiadau cyffrous.

A museum visitor stands with two children in front of a glass display cabinet containing taxidermy specimens. The display includes a barn owl, a duck, a bird of prey, and a fox, all arranged in naturalistic settings within framed cases.

Beth i'w weld

Darganfod straeon pobl Sir Gâr, a'r hyn sy'n gwneud hon yn sir mor arbennig.

Dysgu mwy

Oriau agor

Mawrth - Hydref:

  • Dydd Mawrth i ddydd Sul, 10yb i 5yp
  • Bob dydd yn ystod gwyliau'r ysgol

Tachwedd - Chwefror:

  • Dydd Mawrth i ddydd Sul, 10yb i 4yp
  • Bob dydd yn ystod gwyliau'r ysgol

Ar gau

  • Noswyl Nadolig, Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan, Dydd Calan

     

Dewch i'n gweld

Contact us
Exterior of Carmarthenshire Museum

Rydym yn annog pob ymwelydd i ystyried dulliau teithio cynaliadwy i ymweld â'r amgueddfa.

Ar feic

Cyfleusterau beiciau

Mae rac beiciau sydd wedi'i osod ar y llawr ar gael y tu allan i ganolfan ymwelwyr Parc yr Esgob. Mae'r rac ar ochr chwith y brif fynedfa.

Mae pwynt gwefru beiciau trydan ar gael gyferbyn â phrif fynedfa'r Amgueddfa, wrth ymyl tri lle parcio hygyrch.

Cyfarwyddiadau

  • Mae Llwybr Dyffryn Tywi yn cychwyn y tu allan i wal Parc yr Esgob ac yn parhau drwy Ddyffryn Tywi am 13 milltir i Ffairfach a Llandeilo. Mae'r llwybr wedi'i gynllunio ar gyfer pob math o deithio gweithredol, gan gynnwys beicio.

  • Mae Llwybr Beicio Cenedlaethol 47 yn ymestyn o Gasnewydd i Abergwaun, gan fynd drwy nifer o drefi a phentrefi ar draws Sir Gaerfyrddin, fel Llanelli, Tumble, Cross Hands, Porthyrhyd, Caerfyrddin, Bronwydd Arms, Talog a Threlech.

  • Mae Llwybr Beicio Cenedlaethol 4 yn cysylltu Amgueddfa Parc Howard â Pharc Gwledig Pen-bre ac ymlaen i Gaerfyrddin ac Amgueddfa Sir Gâr, gan ddilyn arfordir Bae Caerfyrddin.

Ar y trên

Gorsaf drenau

  • Mae'r orsaf drenau agosaf yng Nghaerfyrddin, ger yr A484 a Phont Caerfyrddin, gyferbyn â Neuadd y Sir a'r Cei. Dim ond taith gerdded 10 munud yw hi o'r orsaf drenau, ar draws Pont King Morgan dros Afon Tywi, i'r orsaf fysiau ar Stryd Las ger canol y dref. Mae'r amgueddfa yn daith gerdded 50 munud o'r orsaf drenau.

O Lanelli ac Abertawe

  • Mae trenau rheolaidd o Lanelli i Gaerfyrddin drwy gydol yr wythnos, gyda theithiau nad ydynt yn cymryd mwy na 32 munud.
  • Mae trenau rheolaidd hefyd o Abertawe i Gaerfyrddin, gyda theithiau nad ydynt yn cymryd mwy na 47 munud.

O Ddinbych-y-pysgod

  • Mae trenau'n gadael tua bob awr o Ddinbych-y-pysgod i Gaerfyrddin drwy gydol yr wythnos, gyda'r daith yn cymryd dim mwy na 45 munud.

Ar y bws

O Gaerfyrddin

279

Mae'r gwasanaeth o Gaerfyrddin i Landeilo (trwy Llanarthne a Carmel) yn stopio y tu allan i'r Amgueddfa unwaith yn y bore wrth ddod o Gaerfyrddin, a dwywaith yn y prynhawn wrth deithio o Landeilo. Mae'r gwasanaeth yn rhedeg ar ddyddiau Mawrth, Mercher, Iau a Sadwrn.

280

Mae'r gwasanaeth o Gaerfyrddin i Lanymddyfri (trwy Landeilo a Nantgaredig) yn stopio y tu allan i'r Amgueddfa ddwywaith yn y bore, unwaith yn y prynhawn ac unwaith gyda'r nos wrth ddod o Gaerfyrddin. Wrth deithio o Lanymddyfri, mae'r gwasanaeth yn stopio y tu allan i'r Amgueddfa unwaith yn y bore, unwaith yn y prynhawn a dwywaith gyda'r nos. Mae'r gwasanaeth yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sadwrn (ac eithrio Gwyliau Banc).

281

Mae'r gwasanaeth o Gaerfyrddin i Lanymddyfri (trwy Landeilo a Nantgaredig) yn stopio y tu allan i'r Amgueddfa ddwywaith yn y bore a dwywaith yn y prynhawn wrth ddod o Gaerfyrddin. Wrth deithio o Lanymddyfri, mae'r gwasanaeth yn stopio y tu allan i'r Amgueddfa ddwywaith yn y bore, unwaith yn y prynhawn ac unwaith gyda'r nos. Mae'r gwasanaeth yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sadwrn (ac eithrio Gwyliau Banc).

282

Mae'r gwasanaeth o Gaerfyrddin i Frechfa yn stopio y tu allan i'r Amgueddfa unwaith yn y bore wrth ddod o Gaerfyrddin. Wrth deithio o Frechfa, mae'r gwasanaeth yn stopio y tu allan i'r Amgueddfa unwaith gyda'r nos. Mae'r gwasanaeth yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sadwrn (ac eithrio Gwyliau Banc).

O Lanelli ac Abertawe

195

Mae'r gwasanaeth o Lanelli i Gaerfyrddin (trwy Bontyberem) yn gadael tua bob awr neu ddwy, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn (ac eithrio Gwyliau Banc). Mae'r gwasanaeth hefyd yn galw yn nhrefi a phentrefi eraill yn Sir Gâr fel Ffwrnes, Pen-y-Fai, Pum Heol, Cynheidre, Pont-iets, Pont-henri, Pontyberem, Bancffosfelen, Crwbin, Llangyndeyrn, Bancycapel a Cwmffrwd cyn cyrraedd Gorsaf Fysiau Caerfyrddin. Oddi yma, defnyddiwch un o'r gwasanaethau bws uchod i deithio i'r Amgueddfa.

197

Mae'r gwasanaeth o Lanelli i Gaerfyrddin yn gadael bob dwy awr, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Mae'r gwasanaeth hefyd yn galw yn nhrefi a phentrefi eraill yn Sir Gâr fel Ffwrnes, Pwll, Trimsaran, Carway, Pont-iets, Meinciau, Pontantwn, Cloigyn, Bancycapel a Cwmffrwd cyn cyrraedd Gorsaf Fysiau Caerfyrddin. Oddi yma, defnyddiwch un o'r gwasanaethau bws uchod i deithio i'r Amgueddfa.

X11

Mae'r gwasanaeth o Abertawe i Gaerfyrddin (trwy Lanelli) yn gadael bob awr, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Mae'r gwasanaeth hefyd yn galw yn nhrefi a phentrefi eraill yn Sir Gâr fel Pwll, Porth Tywyn, Pen-bre, Cydweli, Mynyddygarreg, Llandyfaelog, Idole a Cwmffrwd cyn cyrraedd Gorsaf Fysiau Caerfyrddin. Oddi yma, defnyddiwch un o'r gwasanaethau bws uchod i deithio i'r Amgueddfa.

O Aberystwyth ac Aberteifi

T1/T1A/T1X/T1C

Mae'r gwasanaeth o Aberystwyth i Gaerfyrddin (trwy Lanbedr Pont Steffan) yn gadael tua bob awr o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Mae'r gwasanaeth yn rhedeg ar ddyddiau Sul a Gwyliau Banc, gan adael tua bob dwy awr. Mae'r gwasanaeth hefyd yn galw yn nhrefi a phentrefi eraill yn Sir Gâr fel Cwmann, Llanybydder, Pencarreg, Aber-Giar, Llanllwni, New Inn, Gwyddgrug, Pencader, Alltwalis, Pontarsais, Rhydargaeau, Peniel a Glangwili cyn cyrraedd Gorsaf Fysiau Caerfyrddin. Oddi yma, defnyddiwch un o'r gwasanaethau bws uchod i deithio i'r Amgueddfa, neu cerddwch o Glangwili i'r Amgueddfa (taith gerdded o tua 25 munud o'r arhosfan bws agosaf yn HT Installations).

460

Mae'r gwasanaeth o Aberteifi i Gaerfyrddin (trwy Gastellnewydd Emlyn) yn gadael tua bob awr o ddydd Llun i ddydd Sadwrn (ac eithrio Gwyliau Banc). Mae'r gwasanaeth hefyd yn galw yn nhrefi a phentrefi eraill yn Sir Gâr fel Castellnewydd Emlyn, Pentrecagal, Waun-gilwen, Drefach, Llangeler, Saron, Rhos, Cwmduad, Cynwyl Elfed, Bronwydd Arms a Glangwili cyn cyrraedd Gorsaf Fysiau Caerfyrddin. Oddi yma, defnyddiwch un o'r gwasanaethau bws uchod i deithio i'r Amgueddfa, neu cerddwch o Glangwili i'r Amgueddfa (taith gerdded o tua 25 munud o'r arhosfan bws agosaf yn HT Installations).

O Sanclêr a Hendy-gwyn

224

Mae'r gwasanaeth o Hendy-gwyn i Gaerfyrddin (trwy Sanclêr) yn gadael dair gwaith y dydd, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn (ac eithrio Gwyliau Banc). Mae'r gwasanaeth hefyd yn galw yn nhrefi a phentrefi eraill yn Sir Gâr, fel Trevaughan, Llwyn-y-brain, Red Roses, Llanddowror, Pwll-trap, Sanclêr, Bancyfelin, Sarnau, Meidrim a Dre Ioan, cyn cyrraedd Gorsaf Fysiau Caerfyrddin. Oddi yno, defnyddiwch un o'r gwasanaethau bws uchod i deithio i'r Amgueddfa.

322

Mae'r gwasanaeth o Hwlffordd i Gaerfyrddin yn gadael dair gwaith y dydd, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn (ac eithrio Gwyliau Banc). Mae'r gwasanaeth hefyd yn galw yn nhrefi a phentrefi eraill yn Sir Gâr, fel Hendy-gwyn, Pwll-trap, Sanclêr a Dre Ioan, cyn cyrraedd Gorsaf Fysiau Caerfyrddin. Oddi yno, defnyddiwch un o'r gwasanaethau bws uchod i deithio i'r Amgueddfa.

O Rydaman

129

Mae'r gwasanaeth o Rydaman i Gaerfyrddin yn gadael bob 2-3 awr o ddydd Llun i ddydd Sadwrn (ac eithrio Gwyliau Banc). Mae'r gwasanaeth hefyd yn galw yn nhrefi a phentrefi eraill yn Sir Gâr, fel Tir-y-Dail, Saron, Capel Hendre, Pen-y-groes, Gorslas, Cross Hands, Y Tymbl, Cwm-mawr, Drefach, Porthyrhyd, Llanddarog, Cwmisfael, Nantycaws, Llangunnor a Tregynnwr, cyn cyrraedd Gorsaf Fysiau Caerfyrddin. Oddi yno, defnyddiwch un o'r gwasanaethau bws uchod i deithio i'r Amgueddfa.

Mewn car

Cyfarwyddiadau

Mae'r Amgueddfa ychydig oddi ar gylchfan yr A40 ym mhen dwyreiniol pentref Abergwili, 3.5 milltir o ganol Caerfyrddin.

Cyfeiriad yr Amgueddfa yw Amgueddfa Sir Gâr, Hen Balas yr Esgob, Abergwili, SA31 2JG.

Parcio

Gweler map o safle Amgueddfa Sir Gâr a Pharc yr Esgob i weld y mannau parcio.

Mae croeso i chi barcio yn unrhyw un o'r pedwar man parcio dynodedig yn rhad ac am ddim.

Peidiwch â pharcio mewn unrhyw le nad yw'n fan parcio dynodedig. Os nad oes mannau parcio ar gael, parciwch yng Nghaerfyrddin a defnyddiwch un o'r gwasanaethau bws uchod i ymweld â'r Amgueddfa.

Mynediad

Mae mynediad heb risiau i'r Amgueddfa, Parc yr Esgob a Gegin Stacey. Mae'r llwybr o'r maes parcio i'r Amgueddfa yn dilyn llwybrau cerddwyr gwastad sy'n addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn.

Mae dau faes parcio ar y safle sy'n cynnwys lleoedd parcio hygyrch.

Rydym yn croesawu cŵn cymorth sydd wedi'u hyfforddi'n briodol. Darllenwch y canllawiau hygyrchedd isod i gael rhagor o wybodaeth am ymweld â'r amgueddfa gyda chi cymorth.

Mwy o wybodaeth am hygyrchedd
Cartoon illustration of a wheelchair user holding a smartphone while seated in a manual wheelchair.
Cartoon illustration of people, including a wheelchair user, raising their hands together.

Cadwch mewn cysylltiad

Rhannwch eich profiadau hwyliog gyda'r teulu yn Amgueddfa Sir Gâr gydag eraill! Tagiwch ni yn @CofGar ar Facebook neu @cofgar.wales ar Instagram i roi gwybod i ni faint wnaethoch chi fwynhau eich ymweliad. Neu defnyddiwch yr hashnod #AmgueddfaSirGâr i helpu eraill i ddarganfod pa le rhyfeddol yw hwn.

Llandovery Castle, on a Low Hill beside the River Bran. JMW Turner
Carmarthenshire Museum

Romantic Wales: Turner and his contemporaries

Explore Wales through J M W Turner and his contemporaries, featuring rare sketchbooks, landscapes and Neo‑Romantic art.

    Read more
    Llandovery Castle, on a Low Hill beside the River Bran. JMW Turner
    Amgueddfa Sir Gâr

    Y Gymru Ramantaidd: Turner a'i Gyfoedion

    Archwiliwch Gymru Rhamantaidd drwy J.M.W. Turner a'i gyfoedion, gan gynnwys llyfrau braslunio prin, tirweddau Cymru a chelf Neo-Ramantaidd yn Sir Gâr.

      Read more
      Musician playing a violin in an orchestra during a live performance, with sheet music and fellow performers visible in the background.
      Carmarthenshire Museum

      In Session

      Relax and enjoy our regular series of free public rehearsals at Carmarthenshire Museum.

      • Free
      Read more
      Musician playing a violin in an orchestra during a live performance, with sheet music and fellow performers visible in the background.
      Amgueddfa Sir Gâr

      Mewn Sesiwn

      Ymlaciwch a mwynhewch ein cyfres reolaidd o ymarferion cyhoeddus am ddim yn Amgueddfa Sir Gâr.

      • Free
      Read more
      Person pouring green liquid from a small glass bottle into a metal bowl containing red ingredients on a wooden table, surrounded by books, candles, potion bottles, and a quill, creating a magical workshop scene.
      Amgueddfa Sir Gâr

      Ysgol Gwrachod a Dewiniaid

      Mae Amgueddfa Sir Gâr yn Abergwili yn trawsnewid yn Ysgol Gwrachod a Dewiniaid yn ystod hanner tymor mis Hydref, gyda rhaglen sy'n cynnwys gwneud diodydd hud a banadl-brennau, chwedlau gwerin a theatr – gan ddangos y gall Calan Gaeaf fod yn hwyl fawr heb greu gwastraff.

      • Family
      Read more
      Person pouring green liquid from a small glass bottle into a metal bowl containing red ingredients on a wooden table, surrounded by books, candles, potion bottles, and a quill, creating a magical workshop scene.
      Carmarthenshire Museum

      School of Witchcraft and Wizardry

      Carmarthenshire Museum in Abergwili is turning into a School of Witchcraft and Wizardry this October half term, with a programme of potion-making, broom-making, folk tales and theatre that shows Halloween can be great fun without the waste.

      • Family
      Read more
      Three children in Halloween costumes sit around an open book, surrounded by carved pumpkins. One wears a tall witch hat, another a skeleton costume, and another a small witch hat with a purple star painted on their face.
      Amgueddfa Sir Gâr

      Chwedlau Llên Gwerin

      Ymunwch â'n teithiau tywys adrodd straeon dan arweiniad yr actor leol, Ceri Phillips, gan rannu llên gwerin traddodiadol a chwedlau tymhorol sy'n gysylltiedig â'r sir i ddathlu treftadaeth gyfoethog Sir Gâr.

      • Family
      Read more