Mewn Sesiwn
Ymlaciwch a mwynhewch ein cyfres reolaidd o ymarferion cyhoeddus am ddim yn Amgueddfa Sir Gâr.

Ymunwch ag un o nifer o grwpiau offerynnol lleol sy'n ymweld ag Amgueddfa Sir Gâr yn rheolaidd i gynnal ymarferion cyhoeddus o'u cerddoriaeth. O ddarnau clasurol i alawon mwy cyfoes, mae'r digwyddiadau rhad ac am ddim hyn yn cynnig cyfle i chi eistedd yn ôl, ymlacio a mwynhau'r awyrgylch.
Cynhelir yr holl sesiynau yn Ystafell Fwyta'r Esgob – ystafell gain sy'n rhan o'r adeilad hanesyddol – ger y Brif Neuadd. Dyma gyfle perffaith i fwynhau'r gwrthrychau hanesyddol a modern sydd arddangoswyd mewn ffordd newydd ac sy'n canolbwyntio mwy ar y profiad.
Nid oes angen archebu lle ac nid oes disgwyl i chi aros tan y diwedd. Gallwch ddod a mynd pryd bynnag y dymunwch. Darperir seddi ac mae'r drws i'r ystafell ar agor drwy'r amser.

Amserlen
Vivace Strings Caerfyrddin
- 26 Medi 2026
- 17 Hydref 2026
- 14 Tachwedd 2026
- 5 Rhagfyr 2026
