Skip to content
Amgueddfa Sir Gâr
Llawr Cyntaf

Bwthyn Elsa

Ewch i mewn i Fwthyn Elsa a phrofi bywyd gwledig yn Sir Gâr. 

Elsa's Cottage

Mae'r arddangosfa hon yn ail-greu y tu mewn i ffermdy traddodiadol, wedi'i seilio ar Benrhiwbeili, bwthyn fferm ger Talog yng ngorllewin Sir Gâr. Prin y newidiodd y fferm fach ond gymharol lewyrchus hon o ddiwedd y 18fed ganrif hyd at ei moderneiddio ym 1985. Trwy ei gynllun, ei ddodrefn a'i wrthrychau bob dydd, mae'r bwthyn yn cynnig cipolwg prin ar barhad bywyd ffermio a thraddodiad domestig.

Gall ymwelwyr edrych drwy'r ffenestri i weld y gegin a'r parlwr, wedi'u cysylltu gan gyntedd lle roedd grisiau pren unwaith yn arwain at le cysgu yn y llofft i'r teulu. Sied dda oedd y parlwr yn wreiddiol, a dyma'n hatgoffa fod pobl ac anifeiliaid yn rhannu'r un adeilad. Mae ychwanegiadau diweddarach, fel y gegin fach yn datgelu sut cafodd mannau eu datblygu i helpu pobl i wneud menyn, caws a gwaith fferm bob dydd. Y tu hwnt i'r tŷ roedd ysguboriau, siediau a stablau, gan ffurfio fferm weithiol.

Mae Bwthyn Elsa yn dod yn fyw trwy arddangosfa gyfoethog o wrthrychau domestig a phersonol. Mae crochenwaith, llestri gwydr, nwyddau te, jygiau a thancardiau yn eistedd ochr yn ochr ag eitemau cartref ymarferol fel basgedi, ffedogau, matiau ac offer cegin. Mae cofroddion, anrhegion a darnau addurniadol yn adlewyrchu balchder yn y cartref a chysylltiadau y tu hwnt i'r sir, tra bo tecstilau ac offer wedi'u gwneud â llaw yn cyfleu sgil, cynildeb a gofal.