Skip to content
Amgueddfa Sir Gâr
Llawr Gwaelod

Creu, Comisiynu, Casglu

Pam rydyn ni'n creu celf? Pam mae celf yn cael ei chomisiynu? A pham mae amgueddfeydd yn casglu rhywfaint o gelf ac nid eraill? Mae'r arddangosfa newydd hon yn archwilio'r cwestiynau hynny!

Sculpture of a woman in a glass display case
Empty museum gallery featuring paintings, display cases, benches, and a large decorative rug.

Mae'r gweithiau celf yn yr ystafell hon yn cynrychioli creadigrwydd Sir Gâr. Trwyddynt gallwn archwilio'r rhesymau pam rydym yn creu celf, pam mae pobl yn comisiynu celf a stori casgliad celf yr Amgueddfa.

Mae pob gwaith yn adrodd ei stori unigryw ei hun. O artistiaid benywaidd anghofiedig i fytholeg Cymru, seintiau a bywyd bob dydd.

Ar un adeg, dyma oedd Ystafell Fwyta'r Esgob. Yn dilyn tân ym 1903, ailadeiladwyd yr adeilad a'i addurno mewn arddull Celf a Chrefft gyda ysbrydoliaeth o'r adfywiad Gothig. Ar ddangos mae dodrefn sy'n adlewyrchu'r arddull hon.