Skip to content
Amgueddfa Sir Gâr
Llawr Gwaelod

Diwylliant Cymru

Bwriwch olwg ar yr arferion, y creadigrwydd a'r symbolau sydd wedi llywio hunaniaeth Gymreig yn Sir Gâr. 

Museum display featuring a glass-fronted case containing a mannequin dressed in traditional historical clothing, surrounded by a spinning wheel, a large harp, and other heritage artefacts.
Close-up view of two ceremonial Welsh Eisteddfod crowns displayed in a museum case. The silver crowns are lined with green velvet and decorated with ornate Celtic-inspired details. The crown in the foreground features a red Welsh dragon emblem and an engraved inscription, while numbered display labels sit in front of each artefact.

Mae'r arddangosfa hon yn dwyn ynghyd wrthrychau sy'n gysylltiedig ag iaith, cerddoriaeth, crefft, bywyd bob dydd a'r Eisteddfod, gan ddangos sut mae diwylliant wedi cael ei fynegi, ei ddathlu a'i drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth.

Wrth galon yr oriel mae'r Eisteddfod, traddodiad sydd wedi'i wreiddio'n ddwfn yn Sir Gâr. Mae medalau a ddyfarnwyd am farddoniaeth, cyfieithu a chrefftwaith yn datgelu hanes hir diwylliant cystadleuol lleol, tra bo coronau a chadeiriau barddol yn tystio i anrhydedd a chydnabyddiaeth genedlaethol.

Mae'r arddangosfa hefyd yn rhoi sylw i hunaniaeth Gymreig trwy sgiliau a thraddodiadau bob dydd. Mae olwynion nyddu, peiriannau cardio, gwyddiau a thecstilau a wehyddwyd yn adrodd hanes cynhyrchu gwlân mewn cartrefi a ffermydd, tra bo gwisgoedd fel sioliau, hetiau, dillad gwely a ffedogau yn adlewyrchu gwisg a balchder rhanbarthol. Mae cerddoriaeth a chreadigrwydd yn cael eu cynrychioli trwy offerynnau fel y delyn, ochr yn ochr â dodrefn, gwrthrychau cartref ac eitemau personol sy'n cyfleu gofal, crefftwaith a hunangynhaliaeth.

Mae gwrthrychau prin a symbolaidd yn ychwanegu haenau pellach o ystyr. Mae Peithynnen neu lyfrau pren wedi'u cerfio â barddoniaeth gan ddefnyddio'r wyddor farddol a ddyfeisiwyd gan Iolo Morgannwg, yn cysylltu Sir Gâr â mudiadau ehangach yn yr adfywiad diwylliannol Cymreig.