Oriel y Gwaith Glo
Mae'r Oriel y Gwaith Glo yn archwilio realiti bywyd yng nglofeydd Sir Gâr.

Nid yw llawer o ymwelwyr yn sylweddoli bod cloddio am lo wedi digwydd yn Sir Gâr. Mae'r oriel hon yn bwrw golwg ar realiti bywyd yng nglofeydd y sir, gan ddatgelu sut y gwnaeth sgiliau, perygl ac arferion dyddiol ddylanwadu ar un o ddiwydiannau pwysicaf Sir Gâr.
Mae'r arddangosfa yn canolbwyntio ar yr amgylchedd gwaith o dan y ddaear. Mae dillad amddiffynnol, helmedau, lampau, padiau pen-glin a sbectol atal llwch yn dangos sut roedd glowyr yn paratoi ar gyfer amodau garw wrth gloddio. Mae eitemau bob dydd fel tuniau snap, poteli dŵr, oriorau a thuniau tybaco yn dod â phersbectif personol, gan adlewyrchu'r shifftiau hir a dreuliwyd dan ddaear, lle roedd ysmygu wedi’i wahardd a lle roedd rhaid cadw golwg fanwl ar amser. Mae'r traddodiad o hongian offer ar far ar ddiwedd shifft wrth wraidd yr ymadrodd "rhoi’r tŵls ar y bar" sy'n ein hatgoffa o ddiwylliant gwaith cryf y pyllau.
Roedd diogelwch yn ganolog i fywyd yn y pyllau glo, ac mae'r oriel yn tynnu sylw at y risgiau a wynebai’r glowyr a'r mesurau a ddatblygwyd i'w diogelu. Mae'r arddangosfeydd yn cynnwys lampau Davy a lampau diogelwch diweddarach, gwiriadau lampau i olrhain pwy oedd o dan y ddaear, synwyryddion methan, mesuryddion llif aer a'r offer a ddefnyddiwyd gan ddynion tân a dirprwyon i brofi am nwy.
Mae offer a ddefnyddiwyd o dan y ddaear yn adrodd hanes y llafur corfforol sy'n gysylltiedig â chloddio am lo. Mae ceibiau, rhawiau, llifiau, gyrdd ac offer torri propiau yn dangos natur heriol y gwaith yn y pyllau, tra bo enghreifftiau o lo caled o lofeydd lleol yn cysylltu'r gwrthrychau yn uniongyrchol â thirwedd Sir Gâr.

