Skip to content
Amgueddfa Sir Gâr
Arddangosfa

'Perfect Imperfect'

Arddangosfa yn Amgueddfa Sir Gâr mewn cydweithrediad â Thaith Campweithiau'r Oriel Genedlaethol

Museum display featuring a framed painting mounted on a pale grey wall, flanked by two black exhibition information panels.

Taith Campweithiau yr Oriel Genedlaethol

Mae'r Daith Campweithiau yn adlewyrchu ymrwymiad yr Oriel Genedlaethol i sicrhau bod ei chasgliad yn cael ei rannu a'i fwynhau ledled y DU, gan roi cyfle i gynulleidfaoedd gael gweld campwaith yn eu hardal eu hunain. Rhwng 2021‐23 mae'r Oriel Genedlaethol yn gweithio mewn partneriaeth â The Beacon Museum, Whitehaven, Amgueddfa Sir Gaerfyrddin ac Oriel Davies, Y Drenewydd, i arddangos tri phaentiad poblogaidd o’r Oriel Genedlaethol ym mhob lleoliad, gan greu deialogau newydd gyda gweithiau o'r casgliadau hyn, gweithiau celf cyfoes a chynulleidfaoedd lleol.

Bywgraffyddol

Ganed Jean‐Siméon Chardin (1699‐1779) ar droad y ddeunawfed ganrif ym Mharis, lle bu’n byw ar hyd ei oes. Yn fab i wneuthurwr byrddau biliards, daeth yn aelod o'r Académie Royale de Peinture et de Sculpture yn 28 oed, gan lwyddo i ddod yn Drysorydd yn y pen draw. Roedd Chardin yn hoff iawn o wneud paentiadau o fywyd llonydd, er nad oedd y testun hwn yn cael ei ystyried yn un o’r genres pennaf ac felly nid oedd yn talu cystal. 

Ar ganol ei yrfa, efallai wedi'i ysgogi gan yr addewid o ennill mwy o arian, newidiodd Chardin i ‘baentio genre’: golygfeydd o bobl gyffredin yn gwneud gweithgareddau pob dydd. Bu'n gwneud paentiadau genre am tua phymtheg mlynedd cyn troi’n ôl at baentiadau o fywyd llonydd yn ystod ei flynyddoedd olaf. Er i Chardin gael ei ysbrydoli gan arlunwyr bywyd beunyddiol nodedig o'r Iseldiroedd a Fflandrys yn y 17eg ganrif, ni fabwysiadodd erioed y naws ddynwaredol a welwyd yn aml yng ngwaith ei ragflaenwyr yn y gogledd. Yn hytrach, roedd ei olygfeydd genre yn ddifrifol ac yn fyfyrgar. Ar y dechrau, aeth ati i archwilio amrywiaeth o fathau o gymeriadau a lleoliadau, cyn ymddiddori yn y pen draw mewn themâu chwarae, plentyndod a'r glasoed. Arweiniodd ei ddarluniau rhyfeddol o blant at dderbyn comisiynau i gynhyrchu gweithiau fel portreadau.

Y Peintiad

Mewn myfyrdod dwys a cherdyn mewn un llaw, mae bachgen ifanc yn ystyried ei symudiad nesaf wrth adeiladu’r tŷ cardiau ar y bwrdd o'i flaen. Wedi ymgolli yn y broses ofalus o adeiladu, does ganddo ddim diddordeb yn y tsipsen hapchwarae a'r geiniog sy’n dal ar y bwrdd ar ôl i’r oedolion fod yn chwarae’r gêm gardiau’n gynharach. Ni allwn gasglu llawer am ei amgylchedd: does dim llawer o fanylder, er bod y cysgod y tu ôl iddo yn dangos ffynhonnell olau o'r chwith uchaf. Gwelir llofnod Chardin, bron fel pe bai wedi'i gerfio i'r wal gerrig llwyd, ar y dde uwchben y bwrdd.

Roedd y testun hwn, sef bachgen yn adeiladu tŷ o gardiau, yn un a baentiodd Chardin droeon. Mewn fersiynau eraill (fel y dangosir ar y panel hwn) mae'r cymeriad yn gwisgo dillad syml a ffedog gwas. Yma, mae elfennau o wisg y bachgen yn dangos ei statws cymdeithasol uwch: yr aur ar hyd ymylon ei het, y coler melfed y gellid ei dynnu, gwaelod arbennig y llewys a’r botymau mawr ar ei got. Yn wir, yn wahanol i'r fersiynau eraill, mae'r paentiad hwn yn bortread a gafodd ei arddangos yn y Salon de 1741‐ arddangosfa baentiadau flynyddol yr Academi ym Mharis ‐ fel "mab M. Le Noir, yn diddanu ei hun drwy wneud castell o gardiau.”

Themâu

Yng nghyfnod Chardin, byddai cynulleidfaoedd wedi bod yn gyfarwydd â delweddau o blant yn adeiladu neu'n chwalu tŷ o gardiau, mewn gweithiau gan arlunwyr o'r ganrif flaenorol a wnaed yn boblogaidd gan wneuthurwyr printiau. Roedd y delweddau hyn, ynghyd â chapsiynau moesolgar a geid ar y printiau, yn aml yn cymharu tŷ cardiau â natur fyrhoedlog plentyndod neu â breuder bywyd ei hun (fel y dangosir ar y panel hwn). Fodd bynnag, yn wahanol i'r moesoli sydd dan yr wyneb yn y delweddau cynharach, mae triniaeth Chardin o'r testun yn gwahodd edrychwyr i edrych ar yr olygfa fel y mae: eiliad fyfyrgar, myfyrdod gweledol ar y grefft o chwarae, vignette o ddiniweidrwydd plentyndod. Mae’r tŷ cardiau’n dechrau cael ei adeiladu, gyda rhai cardiau wedi'u plygu i'w wneud yn gadarnach, nid yw natur ansefydlog y tŷ cardiau’n cael ei hamlygu. Mae’r ffocws ar wyneb y bachgen, ynghyd â'r ffaith nad yw’r tu mewn yn fanwl iawn, yn cynnig delwedd sy’n ddifrifol ac eto’n ddymunol: dathliad tawel o amynedd, meddwl adeiladol a dyfeisgarwch ieuenctid.

'Perfect Imperfect'

Mae amgueddfeydd yn treulio llawer o amser yn y gorffennol. Ond fe fyddech chi'n synnu pa mor bwysig yw'r dyfodol i ni hefyd. Mae portread Chardin yn archwilio themâu plentyndod a pha mor gyflym y mae amser yn mynd heibio. Mae hefyd yn cyfeirio at bryderon oedolion am genedlaethau'r dyfodol. 

Roedd dod â phartneriaeth Taith Campweithiau yr Oriel Genedlaethol i Sir Gaerfyrddin a rhoi cyfle i bobl fwynhau campwaith yn eu hardal wedi gwneud i ni feddwl am yr hyn y dylem ei wneud i gadw pethau ar gyfer y dyfodol. 

Mae gan amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin dros 42,000 o wrthrychau. Gellid disgrifio hyn fel amgueddfa o'r 'pethau sydd dros ben' yn dilyn 50,000 o flynyddoedd yn hanes dynolryw. Felly, ymhlith y cymysgedd hwn o hanes, sut y dylai ein hamgueddfeydd lleol ddewis 'campweithiau' i'w trosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol? 

Mae 'Perfect Imperfect' yn ymateb i hyn. Rydym yn gofyn y cwestiwn i chi: beth yw'r rhinweddau y mae'n rhaid i wrthrychau eu cael er mwyn iddynt gael eu cadw gan amgueddfa? Mae'r arddangosfa hon yn ofod arbrofol. Felly, rydym wedi edrych ar draddodiad diwylliannol gwahanol i gael persbectif gwahanol. 

Mae Wabi Sabi yn safbwynt Japaneaidd o'r byd sy'n seiliedig ar dair egwyddor: nid oes dim yn para, nid oes dim wedi'i orffen, nid oes dim yn berffaith. Mae Wabi yn cydnabod bod heddwch a bodlonrwydd yn dod o fyw bywyd syml a chynnil. Mae Sabi yn ymwneud â harddwch sy'n dod i'r amlwg gyda threigl amser. Mae oedran gwrthrych yn adrodd ei stori ei hun ac yn dyfnhau ein cysylltiad emosiynol ag ef. Mae'n ein hatgoffa am ein marwoldeb ein hunain. 

Mae'r eitemau yn yr arddangosfa hon yn croesawu'r amherffaith – a ddangosir fel oedran, symlrwydd, garwedd, hynodrwydd, difrod, economi ac agosatrwydd. Rydym yn eich gwahodd i oedi a chymryd eiliad i brofi'r hyn sydd yma, nawr. 

Mae gan Wabi Sabi le mewn addysg, yn hyrwyddo prosesau creadigol ac arbrofi, lle mae camgymeriadau'n rhan o ddysgu, ac mae dysgwyr yn cymryd mwy o ran ac yn chwilfrydig drwy gyfrwng y camgymeriadau hynny. Pam rydym yn gofyn hyn? Mewn byd modern lle mae delfrydau ffug yn aml yn flaenllaw ym mhrofiadau bob dydd pobl ifanc, rydym yn eich gwahodd i chwilio am ddelfryd esthetig dawelach a chynaliadwy, am ffordd fwy cadarnhaol ac iachus o ymgysylltu â'r byd