Skip to content
Amgueddfa Sir Gâr
Arddangosfa

Rembrandt

Benthycwyd paentiad o Saskia van Uylenburgh mewn Gwisg Arcadiaidd gan Rembrandt van Rijn i Amgueddfa Sir Gâr gan yr Oriel Genedlaethol ac roedd ar ddangos o 14 Ionawr i 23 Ebrill 2023.

Rembrandt Exhibition

Taith Campweithiau’r Oriel Genedlaethol

Bob blwyddyn, mae’r National Gallery yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau a chynulleidfaoedd ledled y DU er mwyn sicrhau y gall pawb ym Mhrydain ymhél â’i chasgliad cenedlaethol. 

Mae Taith Campweithiau 2021‐23 y National Gallery yn bartneriaeth rhwng y National Gallery, Oriel Davies, y Drenewydd, The Beacon Museum, Whitehaven, ac Amgueddfa Sir Gaerfyrddin. Maent yn gweithio gyda’i gilydd i ddewis paentiad o’r National Gallery a’i arddangos mewn arddangosfeydd sy’n cynnig ffyrdd newydd i gynulleidfaoedd ledled y DU ymhél â’r paentiad.

Black-and-white etched portrait showing two figures seated closely together. In the foreground, a figure wearing a large feathered hat and a wide collar faces the viewer, with detailed cross-hatched shading across the face and clothing. Beside the figure, a younger figure with curly hair and a light head covering sits slightly behind, looking toward the viewer. One arm rests on a table in the lower foreground. The print is rendered with fine, intricate linework on aged paper, and a handwritten inscription a
Hunanbortread gyda Saskia, Rembrandt van Rijn, 1636 Ysgythriad © Rijksmuseum, Amsterdam

Bywgraffiad

Roedd Rembrandt van Rijn (1606‐1669) yn byw yn ystod cyfnod llewyrchus iawn yn hanes Gweriniaeth yr Iseldiroedd, ar adeg pan oedd gan y weriniaeth reolaeth lwyr fwy neu lai dros fasnach yn Ewrop. Yn sgil y bwrlwm economaidd hwn, llwyddodd ymchwil wyddonol, gweithgareddau llenyddol a chelfyddydau gweledol i ffynnu. 

Cychwynnodd Rembrandt ar ei yrfa fel arlunydd yn Leiden, ei ddinas enedigol, ond ar ddechrau’r 1630au symudodd i Amsterdam, sef dinas a oedd yn prysur wneud enw iddi’i hun. Fe’i denwyd yno yn rhannol gan yr addewid o gael comisiynau proffidiol gan ddosbarthiadau canol uwch llewyrchus y ddinas. 

Roedd Saskia yn gyfnither i ddeliwr celf Rambrandt, sef Hendrick Uylenburgh, ac yn ystod ei flwyddyn gyntaf yn Amsterdam arferai Rembrandt fyw yn nhŷ Uylenburgh. Rhannodd Rembrandt a Saskia eu bywydau am oddeutu wyth mlynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw bu Rembrandt yn paentio Saskia yn ddi‐baid, mewn sawl gwedd. Rhoddodd Saskia enedigaeth i bedwar plentyn, ond dim ond un ohonynt, sef Titus, a oroesodd fabandod. Bu farw Saskia rai misoedd yn unig ar ôl geni Titus. Crëwyd y paentiad hwn cyn i’r gyfres drasig hon o ddigwyddiadau ddod i ran y ddau, yn yr un flwyddyn ag y clywsant eu bod yn disgwyl eu plentyn cyntaf.

Oval portrait painting of a person shown from the chest up against a dark brown background, enclosed in a deep black wooden frame. The subject faces slightly to one side while looking outward, with long hair gathered back and adorned with a decorative headpiece. A pearl earring and a strand of pearls around the neck are visible. The subject wears a dark garment with gold trim and a sheer white collar. Soft lighting highlights the face and upper clothing, creating contrast with the dark background and frame.
Merch Ifanc mewn Gwisg Ffantasi, Rembrandt van Rijn, 1633 Olew ar banel © Rijksmuseum, Amsterdam

Y Paentiad

Gyda golau cryf o’r chwith, gwelir merch ifanc yn sefyll o’n blaen yn llawn hunanfeddiant a hyder. Mae hi’n syllu ar rywbeth yn y pellter, ac mae golwg synfyfyriol a llawn disgwyliad ar ei hwyneb. Mae ei gwisg yn gywrain: ffrog werdd lachar gyda bodis byr, tynn, gyddflin isel a llewys llawn ymchwydd, a cheir brodwaith euraid sy’n disgleirio yn y golau. Mae torchau o flodau mân yn addurno’i gwddf a’i phen, ac yn goron ar y cwbl ceir sbrigyn o ferywen. Caiff ei gwallt ei orchuddio gan fêl werdd. Yn ei llaw dde gwelir ffon â thendrilau eiddew wedi’u cordeddu o’i hamgylch; yn ei llaw chwith ceir tusw toreithiog o flodau, ac yn eu plith gwelir carnasiwns, melyn Mair, blodau’r llefrith, blodau ymenyn a thiwlipau. 

Gan fod y ferch yn debyg i’r paentiadau a’r lluniau eraill a wnaeth Rembrandt o Saskia, y farn draddodiadol oedd mai priodferch ifanc Rembrandt oedd hi. Ond mae’r ffaith fod Rembrandt wedi’i phaentio mewn gwisg mor gywrain, gyda blodau a gwyrdd‐ddail, yn peri inni ofyn: ai gwir bortread o Saskia yw hwn, ynteu a wnaeth Rembrandt ddefnyddio Saskia fel model ar gyfer creu delwedd o rywbeth arall?

Oil painting of a person shown from the waist up against a dark background. The figure wears a crown of flowers and a sheer veil draped over the hair and shoulders, and is wrapped in a flowing golden-yellow garment with lace trim. One hand holds a long shepherd’s staff angled upward along the left side of the composition, while the other hand is raised near the face. The face is illuminated by soft light, creating contrast with the dark surroundings. Rich textures in the fabric, veil, and flowers are highli
Bugeiles, Paulus Moreelse, 1630 Olew ar ganfas © Rijksmuseum, Amsterdam

Themâu

Gyda’i ddull gofalus o ddarlunio blodau a dail, mae paentiad Rembrandt yn dathlu harddwch byd natur. Mae ysblander gwyrddlas Saskia yn adlewyrchu’r diddordeb eang a oedd gan gyfoeswyr Rembrandt yn yr hyn a elwir yn Arcadia. Yn ôl y chwedlau a gâi eu hadrodd gan feirdd yr Hen Roeg a’r Hen Rufain, roedd Arcadia yn lle gwledig a diarffordd, heb ei ddifetha gan lygredigaeth gwareiddiad, lle arferai bugeiliaid, nymffau a lled‐dduwiau fyw mewn cytgord gyda natur. Roedd Arcadia a’i themâu bugeiliol yn eithriadol o boblogaidd yng nghymdeithas yr Iseldiroedd yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg, a châi hyn ei adlewyrchu mewn dramâu llwyfan hefyd, yn ogystal â phaentiadau (fel y gwelir yn y llun isod). 

Rhoddwyd sawl teitl i’r paentiad hwn. Yn ôl rhai mae’n darlunio Fflora, sef duwies Rufeinig y Gwanwyn; dywed eraill ei fod yn darlunio’r fugeiles ddelfrydol, wedi’i gwisgo mewn dillad Arcadaidd. Mewn gwirionedd, nid yw’r ddau syniad hyn, nac unrhyw syniad arall, o angenrheidrwydd yn annibynnol ar ei gilydd. Efallai fod Rembrandt wedi mynd ati’n ymwybodol i ddefnyddio traddodiadau gwahanol, gan greu amwysedd bwriadol yn y gwaith terfynol. Câi Rembrandt ei gyfareddu gan wisgoedd, a thrwy gydol ei yrfa dewisodd baentio nifer o’i fodelau mewn dillad theatraidd, hanesyddol, a dychmygol hyd yn oed. Trwy wneud hynny, llwyddodd i ryddhau ei bwnc o hualau’r dull portreadu caeth, gan gyfleu rhywbeth mwy haniaethol: syniad, awyrgylch neu deimlad.

Radiograff-X Rembrandt

Mae’r paentiad hwn wedi cael ei astudio’n helaeth gan arbenigwyr ar Rembrandt yn y National Gallery a gan eraill dros y blynyddoedd, gan ddefnyddio ystod eang o ddulliau archwilio gwyddonol a delweddu technegol. Dyma ddarlun radiograff‐X o’r gwaith, sy’n dangos amryw o nodweddion diddorol am ei hanes cadwraethol a’r dull paentio a ddefnyddiwyd. 

Yn anarferol, cafodd y paentiad ei drosglwyddo i gynfas gwbl newydd; mae’r patrwm gwead mân a chyson a welwch ar y llun yn nodweddiadol o gynfasau llawer mwy diweddar. Cafodd y cynfas gwreiddiol ei grafu neu ei rwbio bron yn gyfan gwbl o’r cefn drwy ddefnyddio triniaeth a gwblhawyd ychydig cyn i’r paentiad gyrraedd casgliad y National Gallery. Fe welwch beth olion o’i wead mwy bras ac anghyson wedi’i wasgaru ar draws y llun, lle na chafodd y ffabrig gwreiddiol ei waredu’n llwyr. Mae’r siâp triongl a welwch o dan ben Saskia yn dangos lle cafodd difrod blaenorol ei drwsio drwy osod darn arall o gynfas – sef darn, yn ein barn ni, a dorrwyd mae’n debyg o ymyl y paentiad hwn ac felly dyma’r unig ddarn o’r ffabrig gwreiddiol hwnnw sydd wedi goroesi. 

Dengys y radiograff-X bod ffigwr arall wedi’i baentio i’r dde ac ychydig o dan y ffigwr canolog; sef menyw, a welir fel proffil, a’i llygaid yn edrych tua’r llawr. Awgrymwyd gyda chryn hyder bod y paentiad gwreiddiol yn cynrychioli rhywun gwahanol – Judith with the Head of Holofernes – mewn cyfansoddiad yn seiliedig yn fras ar waith gan Rubens. Yn y gwaith gwreiddiol, morwyn Judith yw’r ffigwr ar y dde, yn gafael mewn bag mae’n debyg sy’n cynnwys pen Holofernes, tra roedd y ffon a welir nawr yn llaw dde Flora, yn wreiddiol wedi’i gyfleu fel cleddyf yn llaw fuddugoliaethus Judith.