Siop Anrhegion Amgueddfa Sir Gâr
Mae Siop Anrhegion ein Hamgueddfa hefyd yn gwerthu ystod eang o gynhyrchion sydd wedi'u dewis yn ofalus i gyd-fynd â chasgliadau'r Amgueddfa. O lyfrau i flancedi, ac o nwyddau toiled i deganau, fe welwch rywbeth i bob oedran.


Mae siop anrhegion ein hamgueddfa wedi’i hysbrydoli gan y casgliadau a’r arddangosfeydd y byddwch yn dod ar eu traws wrth i chi deithio drwy hanes Sir Gâr.
Er enghraifft, mae llên gwerin, mythau a chwedlau yn thema gref ledled yr amgueddfa. Mae straeon o’r Mabinogi—casgliad o chwedlau gwerin Cymreig canoloesol—i’w gweld yn rhan o rai o’r gweithiau celf a’r gwrthrychau crefft sydd arddangos. Rydym yn annog pobl i adrodd ac ailadrodd y chwedlau hyn drwy’r llyfrau rydym yn eu gwerthu.
Ond mae llên gwerin yn fyw mewn cynhyrchion eraill hefyd. Mae’r cynhyrchion toiledau moethus a’r anrhegion a wneir o gynhwysion naturiol gan Myddfai yn enghraifft wych o hyn. Wedi’i lleoli yn nwyrain Dyffryn Tywi, mae Myddfai yn stori lwyddiant o Sir Gâr ac yn fenter gymdeithasol a ysbrydolwyd gan y chwedlonol Feddygon Myddfai a’u meddyginiaethau a’u triniaethau llysieuol enwog. Dywedir mai Rhiwallon oedd enw’r meddyg cyntaf; cafodd ei wybodaeth am feddyginiaeth i wella cleifion gan ei fam, menyw hudolus o Lyn y Fan Fach, ger pentref Myddfai.
Drwy brynu anrheg o’n siop, byddwch yn cefnogi ein gwaith i hyrwyddo’r straeon hyn a’r rhan bwysig hon o dreftadaeth Sir Gâr.
