'Tobias and the Angel' gan Y Gweithdy o Andrea del Verrocchio
Y campwaith Dadeni hwn, o Weithdy Andrea del Verrocchio, yw'r drydedd arddangosfa a'r arddangosfa olaf yn Nhaith Campweithiau'r Oriel Genedlaethol lwyddiannus iawn, a gefnogir yn hael gan yr Oriel Genedlaethol, Llundain.

Taith Campweithiau'r Oriel Genedlaethol
Bob blwyddyn, mae’r National Gallery yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau a chynulleidfaoedd ledled y DU er mwyn sicrhau y gall pawb ym Mhrydain ymhél â’i chasgliad cenedlaethol. Mae Taith Campweithiau 2021‐23 yn bartneriaeth rhwng y National Gallery, Oriel Davies, y Drenewydd, The Beacon Museum, Whitehaven, ac Amgueddfa Sir Gâr. Maent yn gweithio gyda’i gilydd i ddewis paentiad o’r National Gallery a’i arddangos mewn arddangosfeydd sy’n cynnig ffyrdd newydd i gynulleidfaoedd ledled y DU ymhél â’r paentiad.
Bywgraffiad
Roedd Andrea del Verrocchio (oddeutu 1435-1488) yn un o arlunwyr mwyaf arloesol ac amryddawn Fflorens yn ail hanner y bymthegfed ganrif – sef cyfnod o ffyniant economaidd a diwylliannol mawr yn y ddinas. Hyfforddodd fel gofaint aur yn gyntaf. Nid yn unig yr oedd yn gerflunydd medrus a weithiai gydag amrywiaeth eang o ddeunyddiau a thechnegau, ond hefyd enillodd fri fel arlunydd a drafftsmon. Roedd y teulu Medici pwerus ymhlith ei noddwyr ac roedd galw mawr am ei waith yn Fflorens a thu hwnt.
Mae paentiadau Verrocchio yn datgelu diddordeb ysol yng nghelfyddyd Groeg a Rhufain yr henfyd, a hefyd mewn tirluniau a’r modd y gellir creu effeithiau cynnil â golau. Roedd yn athro galluog ac arferai redeg gweithdy mawr a chynhyrchiol. Yn aml, roedd yn gweithio ar y cyd â’i ddisgyblion ifanc dawnus, yn cynnwys Leonardo da Vinci, Lorenzo di Credi a Pietro Perugino. Cafodd yr ymholi a’r arloesi a oedd yn perthyn i Verrocchio effaith ddylanwadol ar y genhedlaeth nesaf o arlunwyr – arlunwyr a symbylodd gyfnod yr Uchel Ddadeni, fel y’i gelwir heddiw. Yng ngeiriau bardd o Fflorens ar ddechrau’r 1500au, “pa bynnag rinweddau da sy’n perthyn i arlunwyr, yfasant o ffynnon Verrocchio”.
Y Paentiad
Yn y paentiad hwn, gwelir yr archangel Raphael yn tywys Tobias a’i gi trwy gefn gwlad, sef hanesyn sy’n seiliedig ar lyfr Tobit. Ac yntau wedi’i wisgo mewn dillad ysblennydd, mae’r bachgen ar ei ffordd i gasglu dyled sy’n ddyledus i’w dad dall, Tobit. Mae’n cario pysgodyn wedi’i ddiberfeddu gerfydd llinyn, ac mae Raphael yn dangos blwch bach crwn iddo sy’n cynnwys organau’r pysgodyn – cynhwysion ar gyfer eli a all wella dallineb Tobit.
Mae’r darlun hwn yn enghraifft o natur gydweithredol gweithdy Verrocchio. Mae’r gwahanol nodweddion a welir yn awgrymu bod y meistr wedi paentio’r llun gyda help nifer o’i gynorthwywyr yn y gweithdy. Mae’r modd cerfluniol y modelwyd wynebau cain y ffigyrau, ynghyd â manylder coeth eu gwisgoedd, yn nodweddiadol o Verrocchio ei hun, tra mae cynildeb y tirlun yn awgrymu llaw arall. Yn wir, awgrymwyd mai’r Leonardo da Vinci ifanc sydd, efallai, yn gyfrifol am baentio’r ci bywiog a’r pysgodyn – math o baentiad ‘bywyd llonydd’ bach.
Tobias a’r Angel yn Fflorens y Dadeni
Roedd paentiadau o Tobias a’r Angel yn hynod boblogaidd yn Fflorens rhwng oddeutu 1450 a 1485 a hynny, yn ôl pob tebyg, oherwydd cwlt poblogaidd yr Archangel Raphael a hyrwyddwyd gan nifer o frawdoliaethau crefyddol a oedd wedi’u cysegru iddo. Ac yntau’n nawddsant teithwyr ac iachawyr, galwyd ar Raphael i sicrhau siwrnai saff i fasnachwyr ar eu teithiau busnes neu i fechgyn ifanc a arferai fynd ar negeseuon i’w tadau, fel Tobit – rhywbeth y byddai nifer o brentisiaid o Fflorens wedi’i wneud.
Yn aml, roedd y delweddau hyn o Tobias a’r Angel yn debyg o ran eu cyfansoddiad, ac arferent gael eu paentio ar allorluniau, offrymau addunedol a phaneli bach at ddibenion addoli personol mewn cartrefi. Yn ôl pob tebyg, ymatebodd Verrocchio yn uniongyrchol i baentiad ar yr un pwnc gan yr arlunydd Piero del Pollaiolo o Fflorens (fel y dangosir ar y panel hwn), sef paentiad a gâi ei arddangos yn eglwys Orsanmichele, Fflorens. Yn hytrach nag atgynhyrchu’r paentiad yn slafaidd, ceisiodd Verrocchio ragori arno trwy baentio ffigyrau mwy gosgeiddig a bywiog a thrwy roi mwy o egni yn eu symudiadau – rhywbeth a bwysleisir gan y defnyddiau a’r addurnweoedd troellog.
Ofn a gwarchod
Roedd newidiadau yn digwydd ledled Ewrop yn ystod bywyd Verrocchio. Yn ystod yr Oesoedd Canol roedd crefydd, llên gwerin a hud a lledrith wedi cyd-fyw a chael eu derbyn fel rhan o fywyd, ond erbyn y 15fed ganrif roedd gwrachod a grymoedd goruwchnaturiol yn cael eu beio a'u hofni am ddod ag anffawd i deuluoedd, achosi salwch, a melltithio pobl, anifeiliaid a chnydau.
Iachawyr gwerin a bragwyr cwrw oedd llawer o'r rhai a gyhuddwyd o ddewiniaeth, sef pobl a oedd yn darparu gwasanaeth iechyd gwerthfawr yn eu cymuned. Mae rhai haneswyr bellach yn credu bod cysylltiad rhwng y cynnydd yn yr hyfforddiant meddygol ffurfiol oedd ar gael a'r cyhuddiadau o ddewiniaeth yn erbyn iachawyr gwerin.
Roedd agoriadau mewn tŷ yn lleoedd amlwg i ddylanwadau drwg ddod i mewn. Yn aml byddai eitemau cudd, swynion gwarchod a marciau gwrach (math o swyn hynafol sy'n edrych fel olwyn neu droell) yn cael eu defnyddio i gadw gwrachod i ffwrdd, tynnu eu sylw neu eu dal. Mae nifer fawr o swynion, gan gynnwys esgidiau, hoelion, pedolau, a hen heyrn gwastad yn cael eu darganfod ar bwys drysau a simneiau mewn adeiladau hŷn yng Nghymru.
Roedd coed a phlanhigion hefyd yn gwarchod. Defnyddiwyd Meipen Fair i ddinistrio swynion drwg ac roedd coch llachar y griafolen yn cynnig yr amddiffyniad gorau rhag hud a lledrith. Yn aml byddai'n cael ei phlannu i warchod tŷ, neu'n cael ei chario, ei chlymu wrth harnais ceffyl neu ei gosod o amgylch drysau a ffenestri.
Gofal ac iachâd
Efallai fod y ffordd aeth Tobias ati i iacháu dallineb ei dad drwy eli wedi'i greu o berfedd pysgod yn ymddangos yn rhyfedd ond, yn hanesyddol, roedd meddygaeth, gofal a llawdriniaeth yn cael eu cynnig mewn sawl ffordd. Mewn ardaloedd gwledig, byddai sgiliau gwerthfawr iawn gan wraig ddoeth iachaol, a oedd yn arbenigo mewn defnyddio llysiau meddyginiaethol ac mewn bydwreigiaeth ac yn meddu ar wybodaeth a drosglwyddwyd o un genhedlaeth i'r llall. Byddai deintyddion a barbwr-lawfeddygon, ac urddau crefyddol yn darparu gofal ar gyfer y rhai terfynol wael. Ac roedd meddygon hefyd, a oedd fel arfer yn trin y bobl gyfoethog.
Mae'n bosibl mai meddygon enwocaf Cymru oedd Meddygon Myddfai yn Sir Gaerfyrddin, a oedd yn cynrychioli llinach yn ymestyn yn ôl i Rhiwallon a'i feibion a fu'n gwasanaethu yn llys Rhys Grug, Tywysog Deheubarth, yn y 13eg ganrif. Rhiwallon oedd mab hynaf Morwyn Llyn y Fan Fach. Yn y chwedl Gymreig, daeth Nelferch allan o'r llyn, priododd ffermwr a chafodd dri mab, ond cafodd ei gorfodi i ddychwelyd i'w byd hudol. Byddai'n ymweld â'r byd dynol dim ond i ddysgu ei meibion am nodweddion meddyginiaethol planhigion a'u hannog i fod yn iachawyr.
Credir bod Meddygon Myddfai wedi cynnal y proffesiwn teuluol am dros 800 mlynedd. Ysgrifennwyd eu meddyginiaethau yn Gymraeg a'u trawsgrifio'n ddiweddarach yn y llawysgrif o'r enw Llyfr Coch Hergest tua 1400. Yn ddiddorol iawn, byddai'r Meddygon nid yn unig yn trin y symptomau ond hefyd yn chwilio am yr achos ac yn ceisio rhagweld beth fyddai canlyniad y driniaeth. Yn hyn o beth, gellir eu galw'n feddygon holistaidd cynnar gan iddyn nhw argymell, er enghraifft, bod cleifion yn bwyta'n iach ac yn gwneud ymarfer corff.
