Trysorau Tecstilau
Mae'r tecstilau hyn o gasgliad CofGâr yn enghreifftiau a wnaed o ddefnyddiau lleol yn ystod y 1800au. Maent yn hardd, yn ymarferol, ac yn rhoi cipolwg ar fywydau'r bobl a'u gwnaeth, a'r rhai a oedd yn eu gwisgo a'u defnyddio.

Ceir cysylltiad agos rhwng gwaith cynhyrchu tecstilau gwlân cynnar a'r tymhorau ffermio. Byddai pobl yn gweithio ar y tir yn yr haf ac ar wyddiau cul gartref yn y gaeaf. Yn ystod y chwyldro diwydiannol, cafodd y diwydiant cartref hwn ei ddisodli gan felinau mawr, modern. Roedd y melinau hyn yn cyflogi miloedd o bobl, yn enwedig yn Nyffryn Teifi.
Roedd yr amodau gwaith yn anodd. Byddai pobl fel arfer yn gweithio 12 awr y dydd, chwe diwrnod yr wythnos. Cyflog isel gâi'r rhan fwyaf o weithwyr. Ac roedd disgwyl i blant gweithwyr mor ifanc â 10 oed weithio hefyd.
Er bod nwyddau gwlân a wnaed yn ne Cymru yn cael eu gwerthfawrogi am eu hansawdd, aeth y diwydiant trwy gyfnodau llwyddiannus ac aflwyddiannus hefyd. Roedd contractau'r Llywodraeth ar gyfer lifreiau milwrol a blancedi yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yn broffidiol. Ond methodd y diwydiant â moderneiddio. Caeodd llawer o felinau yn sgil y galw am ffabrigau ysgafnach, ffasiynol yn ystod y 1920au a'r 1930au.
Dim ond llond llaw o felinau gwlân Cymreig sy'n weithredol yn fasnachol heddiw. Eto i gyd, mae'r garthen draddodiadol a dillad, blancedi a chwiltiau gweuedig Cymreig yn mynd yn fwyfwy poblogaidd. Mae cysylltiad cryf rhwng darnau o oes aur diwydiant cynhyrchu tecstilau Cymru a’r cysyniadau Cymreig unigryw o gynefin a hiraeth.



Gwisg Genedlaethol Cymru
Mae Gwisg Genedlaethol Cymru yn seiliedig ar y betgwn, sef math o wisg a oedd yn boblogaidd ledled Ewrop yn y 18fed ganrif. Datblygodd yr amrywiad Cymreig nodedig ar y wisg hon o'r defnyddiau lleol a oedd ar gael. Roedd gwlân a gynhyrchid ar ffermydd cyfagos fel arfer yn cael ei brosesu â lliwiau naturiol, a'i nyddu a'i wehyddu a'i wnïo gartref.
Er i'r betgwn fynd yn llai poblogaidd yn ystod y 19eg ganrif, roedd yn dal yn ffasiynol yng Nghymru. Wrth i ffasiynau newydd mewn defnyddiau rhatach ddod yn fwy poblogaidd, a gyrhaeddodd y cymunedau gwledig yn sgil twf y rheilffyrdd, daeth y betgwn yn wisg ar gyfer achlysuron arbennig yn hytrach na rhywbeth i'w wisgo bob dydd.
Ychydig iawn o wisgoedd Cymreig gwreiddiol sydd wedi goroesi am eu bod yn cael eu gwisgo gan fenywod oedd yn gweithio ac felly roedd eu gwaith dyddiol yn difrodi eu dillad. Byddai'r gwisgoedd yn cael eu gwisgo hyd nes eu bod yn garpiog oherwydd bod arian yn brin a'i bod yn cymryd amser hir i wneud dillad. Roedd dillad yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr, ac roedd ailgylchu yn rhan arferol o'n diwylliant.
Dillad gorau pobl yw'r rhan fwyaf o enghreifftiau mewn amgueddfeydd. Mwy na thebyg bod yr enghraifft hon wedi'i gwisgo ar achlysuron arbennig fel cyngherddau neu Eisteddfodau.
Pa ddilledyn o’ch eiddo chi fyddech chi'n ei roi i amgueddfa? Beth allai ddangos i genedlaethau'r dyfodol am fywyd heddiw?



Gwisgo i fyny
Dechreuodd gwisg menywod sy'n gweithio o Gymru gael sylw ar ddechrau'r 19eg ganrif pan ddaeth delfrydau Rhamantaidd yn ymwneud â bywyd gwledig ac arferion y gorffennol yn boblogaidd. Roedd artistiaid ac awduron yn annog twristiaid i brofi harddwch 'gwyllt' Cymru.
Roedd Gwisg Genedlaethol Cymru yn gyfle marchnata gwych ar gyfer twristiaeth. Masgynhyrchwyd cardiau post yn dangos modelau mewn gwisg ffug, yn gwneud tasgau traddodiadol fel nyddu. Daeth y wisg Gymreig yn arddulliedig. Y betgynau coch a du trawiadol oedd y gwisgoedd mwyaf poblogaidd. Ac aeth yr hetiau â chorun uchel mor fawr fel nad oeddent yn hanesyddol gywir mwyach.
Dechreuwyd diddordeb cynyddol yn niwylliant Cymru yn dilyn yr Eisteddfod gyntaf gyda Gorsedd y Beirdd a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin ym 1819. Cymerodd Arglwyddes Llanofer (1802-1896), a oedd yn wraig ddylanwadol, ddiddordeb mawr mewn eisteddfodau a chaiff ei chysylltu'n aml â hyrwyddo'r Gymraeg, a dyfeisio a datblygu'r Wisg Genedlaethol ac annog y defnydd ohoni.
Beth am wisgo gwisg Gymreig? A oes ots os nad yw'r Wisg Genedlaethol yn hanesyddol gywir?



Croesbwytho a phocedi
Roedd sampleri yn fath poblogaidd o frodwaith am bron i 300 mlynedd. I ddechrau roeddent yn ddarnau hir o liain a ddefnyddiwyd gan wniadwragedd i gofnodi eu pwythau ac fel llyfr patrymau i gyfeirio ato.
Wrth i sampleri ddod yn fwyfwy poblogaidd, gwerthwyd llyfrau patrymau printiedig ledled Ewrop. Mae motiffau safonedig fel blodau, calonnau a choed yn golygu ei bod bron yn amhosibl edrych ar sampler a gwybod ym mha wlad y'i gwnaed.
O ddiwedd y 18fed ganrif, roedd pwytho sampleri yn ddull a ddefnyddiwyd i ddysgu rhifau a llythrennau i blant. Yn ogystal â'r wyddor roedd sampleri fel arfer yn cynnwys llinell neu ddarn o bennill â neges foesoli. Byddai mapiau hyd yn oed yn cael eu brodio mewn gwersi daearyddiaeth. Nid oes llawer o sampleri wedi goroesi yn y Gymraeg oherwydd bod y sampler yn un o'r ffyrdd yr oedd ysgolion yn eu defnyddio i annog plant i ddysgu Saesneg.
Un o drysorau tecstilau'r amgueddfa yw pocedi clymu Mary Davis. Croesbwythodd ei henw mewn llythrennau amlwg i roi gwybod i bawb eu bod yn perthyn iddi hi. Pam ydych chi'n meddwl bod hyn yn bwysig i Mary? Mae'n ymddangos bod pocedi ag enwau arnynt yn unigryw yng Nghymru. Mae'r ffaith bod pocedi Mary wedi'u brodio yn yr arddull sampler yn awgrymu y gallent fod wedi'u gwneud fel rhan o hyfforddiant gwaith gwnïo.


Cwiltiau a blancedi
Gwnaed y cwiltiau hyn yn ystod oes aur cwiltio Cymreig rhwng 1840 a 1940. Yn ystod ail hanner y 19eg ganrif daeth cwiltio'n grefft a allai ennill arian am y tro cyntaf. Cafodd ffabrig printiedig hardd a gwlanen Gymreig mewn lliwiau llachar iawn eu masgynhyrchu ac roeddent yn rhatach i'w prynu. Roedd cwiltiau'n cael eu gwnïo â llaw gan wniadwragedd medrus. Hon oedd un o'r ychydig ffyrdd y gallai menywod gynnal eu teuluoedd tra oeddent yn gweithio gartref.
Byddai gwniadwragedd lleol yn gwnïo cwiltiau ar gyfer eu cymunedau ac roedd archebu cwilt yn debyg iawn i brynu dillad gwely newydd heddiw. Mewn ardaloedd gwledig, byddai cwiltwyr teithiol yn symud rhwng ffermydd gan ddod â newyddion a chlecs o bob cwr o'r gymdogaeth.
Dirywiodd cwiltio proffesiynol ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf oherwydd bod modd i fenywod ennill cyflogau gwell mewn swyddi eraill. Daeth dillad gwely wedi'u masgynhyrchu hefyd yn fwy fforddiadwy. Yn ystod y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel byd, cafwyd ymdrechion i adfywio a hyrwyddo cwiltio traddodiadol wrth wneud cwiltiau hardd ar gyfer gwestai moethus yn Llundain a phlastai. Ond daeth y fenter i ben ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd a diflannodd yr alwedigaeth gyda'r ychydig bobl fedrus a oedd yn dal i'w dilyn.




