Y Capel
Y lle pwysicaf yn y Palas yn ystod y cyfnod hwnnw oedd y Capel.


Mae Amgueddfa Sir Gâr wedi'i lleoli yn Hen Balas yr Esgob a fu'n gartref i'r esgobion am dros 400 mlynedd.
Y lle pwysicaf yn y Palas yn ystod y cyfnod hwnnw oedd y Capel. Ar lawr cyntaf yr adeilad, y Capel oedd y man lle byddai'r esgobion, eu teuluoedd a'u gwesteion yn cwrdd ar gyfer gweddi ddyddiol.
Mae capel wedi bodoli yn yr adeilad ers o leiaf 1625. Chwiliwch am blac pres ar y wal sy'n wynebu'r ffenestri – mae hyn yn nodi bod capel wedi'i gysegru yma ym mis Awst y flwyddyn honno.
Dinistriodd tân yn yr adeilad y capel gwreiddiol yn 1903. Fe welwch lun o sut olwg oedd ar y capel cyn hynny ar y wal ger yr allor. Rhwng 1904 a 1907, roedd y pensaer eglwysig, W.D. Caröe, wedi adfer y lle mewn arddull celf a chrefft, a'r newid mwyaf oedd troi'r seti i wynebu'r eil yn hytrach na'r allor. Efallai bod hyn wedi'i wneud i roi cyfle i goffáu esgobion y gorffennol gyda cherfiadau pren hardd o'u harfbeisiau. Faint allwch chi eu gweld?
Cyn i chi adael, cymerwch eiliad i ddarganfod mwy am yr Esgob Connop Thirlwall y mae ei gadair ddarllen yn cael ei harddangos ger yr allor. Yr Esgob Thirlwall oedd un o'r esgobion cyntaf yng Nghymru i ddysgu Cymraeg ac roedd yn gefnogwr brwd i iaith a diwylliant Cymru.
