Yr Hen Aifft: Stori Harold Jones
Gadewch i'r artist a'r Eifftolegydd Harold Jones fynd â chi ar antur yn ôl i'r hen Aifft.

Mae'r arddangosfa hon yn adrodd hanes Harold, o'i enedigaeth yn Barnsley i'w fywyd yng Nghaerfyrddin a'i waith yn yr Aifft. Aeth ei yrfa fer ond disglair ag ef o'r Coleg Celf Brenhinol i rai o safleoedd enwocaf yr Aifft.
Gallwch weld rhai o'r gwrthrychau diddorol ddarganfuwyd ganddo, ynghyd â'i baentiadau gwych o feddrodau yn Nyffryn y Brenhinoedd, lle daeth o hyd i rai o'r cliwiau cyntaf am leoliad beddrod Tutankhamun!
Bywyd Cynnar Harold Jones
Ganwyd Ernest Harold Jones (1877-1911) ar 7 Mawrth 1877. Roedd ei rieni, William a Mary Anne (Marianne) Jones, ill dau o Gaerfyrddin. Buont yn byw yno tan 1876, pryd cynigiwyd swydd i William fel pennaeth cyntaf Ysgol Gelf newydd yn Barnsley.
Felly symudodd y cwpwl i'r dref yn Swydd Efrog gyda'u dau blentyn hynaf. Cawsant drydydd plentyn yn fuan wedi cyrraedd, a ganwyd Harold ei hun yno'r flwyddyn ganlynol a'i fedyddio yn Eglwys y Santes Fair.
Bu'r teulu a'r pedwar o blant yn byw ger yr ysgol gelf tan 1880, pryd derbyniodd tad Harold swydd newydd fel pennaeth Ysgol Gelf Caerfyrddin a symud nôl i Gymru gyda'i dri phlentyn hynaf. Ond roedd Mary Anne a Harold dal yn Barnsley yn 1881, pryd nodwyd ar y cyfrifiad fod yr Harold 4 oed yn 'sgolor’.
Harold Jones yr Artist
Roedd Harold Jones yn rhan o deulu mawr o artistiaid. Roedd ei rieni, William a Mary Anne, wedi cwrdd yng Ngholeg Celf De Kensington yn Llundain (y Coleg Celf Brenhinol yn ddiweddarach) a disgrifiwyd Mary Anne fel 'artist nodedig’.
Wedi i'r teulu symud yn ôl i Gaerfyrddin, mynychodd Harold Ysgol Ramadeg y Frenhines Elizabeth ac yna Ysgol Gelf y dref lle'r oedd ei dad yn bennaeth a'i fam yn athrawes. Roedd dwy o'i chwiorydd hefyd yn gweithio yno fel 'disgybl-athrawon' (cynorthwywyr addysgu), fel y gwnaeth Harold, nes iddo ennill ysgoloriaeth i Goleg Celf Brenhinol Llundain yn 1902.
Yn ogystal â phaentio tirweddau, portreadau a phethau archeolegol, cafodd ei ysbrydoli hefyd gan artistiaid cyn-Raffaelaidd fel Lawrence Alma-Tadema, a ofynnodd am farn Harold ar un o'i baentiadau o'r hen Aifft, a werthodd ddiwethaf am dros £28 miliwn.
Harold Jones yr Artist Archeolegol
Ar ôl dechrau ei astudiaethau yn y Coleg Celf Brenhinol, cafodd Harold ddiagnosis o'r diciâu a chyngor ei feddyg oedd symud i hinsawdd sychach. Dim ond trwy weithio y gallai fforddio gwneud hyn, felly yn 1903 daeth yn artist ar gloddiadau yn Beni Hasan yn yr Aifft.
Yn Beni Hasan gweithiodd fel cynorthwyydd yr archeolegydd John Garstang, a bu'r ddau ddyn yn byw un o'r beddrodau hynafol a dorrwyd yn y graig. Roedd Harold yn darlunio ac yn paentio'u darganfyddiadau, a phaentiodd bortreadau o'r Eifftiaid oedd yn gweithio gyda nhw, gan gynnwys y bechgyn lleol, Abadi a Mahmoud, a fforman y gwaith cloddio, Saleh Abd El Nebi.
Hefyd paentiodd Harold olygfeydd o'r dirwedd leol i'w gwerthu i dwristiaid, ac un ohonynt oedd merch y Frenhines Victoria, y Dywysoges Beatrice, a chymaint oedd yr argraff wnaeth sgiliau artistig Harold arni, fe dderbyniodd hi un o'i baentiadau fel rhodd yn ddiweddarach.

Print o ddyfrlliw a gynhyrchwyd gan McLagan & Cumming, Caeredin. Mae'r siacal du hwn yn cynrychioli Anubis, amddiffynnwr mynwentydd a'r duw a gynorthwyodd y dduwies Isis i fwmïo'r meirw.
Harold Jones yr Archeolegydd
Er mai fel artist roedd Harold wedi hyfforddi, buan iawn y datblygodd y sgiliau archeolegol angenrheidiol i gynnal cloddiadau Beni Hasan ar ei ben ei hun. Roedd mor ddefnyddiol i Garstang, fe ddychwelai gydag ef i'r Aifft bob blwyddyn i weithio ar safleoedd pwysig yn ne'r Aifft.
Gan ddechrau yn Hierakonpolis, bu Harold wedyn yn goruchwylio cloddiadau yn Esna, yn Nag' el-Hassaya ger Edfu ac yn Abydos, gan anfon gwrthrychau a ganfu yn y lleoedd hyn yn ôl i Gymdeithas Hynafiaethwyr Sir Gaerfyrddin i'w helpu i sefydlu amgueddfa yng Nghaerfyrddin yn 1908.
Bu Harold hefyd yn gweithio gyda thîm o Amgueddfa Gelf Fetropolitan Efrog Newydd, gan baentio golygfeydd o safle pyramid gogleddol Lisht ac yn ninas hynafol Amarna, man geni pharo nad oedd fawr neb wedi clywed amdano ar y pryd, sef Tutankhamun. Copïodd furluniau a oedd yn dangos tad Tutankhamun, Akhenaten, ei lysfam, Nefertiti, a'u merched bach a oedd yn hanner chwiorydd Tutankhamun.
Powlen grochenwaith faience wydrog gyda dyluniad lotws. Byddai arwyneb treuliedig y bowlen ar un adeg wedi bod o liw gwyrddlas llachar gyda dyluniad lotws mewn du.
Harold yn Nyffryn y Brenhinoedd
Ac yntau'n treulio mwy o amser yn Luxor, roedd ffrindiau Harold yn cynnwys Howard Carter, sef artist arall oedd wedi troi'n archeolegydd, a'r Arglwydd a'r Arglwyddes Carnarvon, a wnaeth ei wahodd i aros yn eu cartref, Castell Highclere.
Cyfarfu hefyd â'r miliwnydd Americanaidd Theodore Davis, a oedd yn ariannu cloddiadau yn Nyffryn y Brenhinoedd yn Luxor, lle'r oedd ei archeolegwyr yn gwneud llawer o ddarganfyddiadau. Roedd y rhain yn cynnwys beddrod tad Tutankhamun, Akhenaten (KV.55) lle gofynnwyd i Harold ddarlunio darganfyddiadau gan gynnwys creirfa aur fawr. Yna aeth Davis â Harold gydag ef i ddarlunio gemwaith a ddarganfuwyd yn y 'Beddrod Aur' (KV.56) ac i baentio golygfeydd mewn beddrodau eraill yn cynnwys olynydd Tutankhamen, Brenin Horemheb (KV.57).
Erbyn 1908, Harold oedd prif archeolegydd Davis yn y dyffryn, gan ddod o hyd i enw Tutankhamen ar wrthrychau yn cynnwys gwaith aur o feddrod KV.58 y daeth Harold o hyd iddo yn 1909. Gwyddys bellach mai celc lleidr ydoedd, ond honnodd Davis ar gam mai beddrod Tutankhamun ei hun oedd hwn.
Rhoddwyd gan E.H.Jones.
Marwolaeth a Gwaddol Harold
Roedd disgwyliadau uchel gan Davis drwy'r amser o ran darganfyddiadau newydd, a bu i hynny ddweud ar iechyd Harold. Ysgrifennodd gartref at ei rieni gan ddweud "mae'r gwaith wedi bod yn llychlyd iawn, ac yn boenus a'n galed iawn i fi... dwi ddim yn teimlo'n ddigon da i wneud rhagor, os fydda i fyw mor hir â hynny”.
Treuliodd haf 1910 yn ôl yn Lloegr yn gorffwys yng nghartref noddwr newydd Carter, yr Arglwydd Carnarvon, a bu'r Arglwyddes Carnarvon ei hun yn gofalu amdano. Yna dychwelodd i'r Aifft yn ddiweddarach y flwyddyn honno gyda'i frawd 18 oed, Cyril, i helpu.
Ar 7 Mawrth 1911 dathlodd Harold ei ben-blwydd yn 34 oed yn ei dŷ cloddio yn Nyffryn y Brenhinoedd, ond bu farw yno ddeuddydd yn ddiweddarach. Trefnwyd ei angladd yn Luxor gan yr Arglwydd Carnarvon a Howard Carter, a aeth ymlaen wedyn i ychwanegu at waddol Harold a darganfod beddrod go iawn Tutankhamen yn 1922.

Faience gwydr gwyrdd. Shabti 'goruchwyliol' yr offeiriad Ankh-ef-(en)-Khonsu, a fwriadwyd i gadw trefn ymhlith ei holl ffigurau shabti eraill yn y bywyd nesaf.



