Ysgol Gwrachod a Dewiniaid
Mae Amgueddfa Sir Gâr yn Abergwili yn trawsnewid yn Ysgol Gwrachod a Dewiniaid yn ystod hanner tymor mis Hydref, gyda rhaglen sy'n cynnwys gwneud diodydd hud a banadl-brennau, chwedlau gwerin a theatr – gan ddangos y gall Calan Gaeaf fod yn hwyl fawr heb greu gwastraff.

Dewch i ymuno ag Ysgol Gwrachod a Dewiniaid Amgueddfa Sir Gâr, lle gallwch gymysgu trwythau naturiol gan ddefnyddio perlysiau a chynhwysion cynaliadwy eraill, gwneud eich banadl eich hun o ddeunyddiau naturiol wrth ddysgu crefft draddodiadol, a chreu crefftau ar thema ystlumod o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu; cyfle i drafod yr ystlumod a bywyd gwyllt arall sy'n rhannu ein cartrefi a'n gerddi, a sut i ofalu amdanynt.
Cynhelir un sesiwn ar 29 Hydref am 1.45yp, yn para awr. Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig i 10 o bobl, felly mae angen archebu lle ymlaen llaw.. Mae gofalwyr yn mynd am ddim (ond rhowch wybod i ni ymlaen llaw os bydd gofalwr yn dod).
Gellir archebu tocynnau ymlaen llaw am £5.00 ynghyd â ffi archebu o 7% a TAW, a godir gan Ticketsource.
