Skip to content
Amgueddfa Sir Gâr
Darganfod

Hen Balas yr Esgob

Darllenwch stori un o'r adeiladau hynaf a phwysicaf yn Sir Gâr - lle a helpodd i gadw'r Gymraeg yn fyw i bawb.

 

Black and white photo of the front facade of a building. The building has a gabled entrance and porch and two floors of windows stretching across the front and a small cupola rising from the roof.
Library with full bookshelves on the back and side wall. A desk sits in the centre of the room and a patterned rug covers the floor.
Llyfrgell yr Esgob fel yr oedd cyn tân 1903.

Cartref â gwreiddiau dwfn

Mae stori Hen Balas yr Esgob yn Abergwili yn dechrau tua 1290, pryd sefydlodd yr Esgob Thomas Bek goleg i offeiriaid ar y safle hwn. 

Nid ydym yn gwybod yn iawn sut adeilad oedd yr un gwreiddiol. Ond rydym yn gwybod ei fod yn cael ei gefnogi gan incwm o 21 o blwyfi lleol. Digon tawel oedd bywyd yma am ryw 200 mlynedd. 

Newidiodd popeth yn ystod teyrnasiad Harri VIII. Daeth y coleg i ben pan dorrodd y Brenin bob cysylltiad â'r Eglwys Gatholig adeg y Diwygiad Protestannaidd. Yn 1541 symudwyd y coleg i Aberhonddu, gan adael yr adeiladau yn Abergwili yn wag. 

Ond nid am hir. 

O goleg i gartref esgob

Y flwyddyn ganlynol, yn 1542, gofynnodd Esgob Tyddewi am gael symud ei breswylfa swyddogol yma. Roedd Abergwili yn agosach at ganolfan grym gorllewin Cymru ar y pryd (Caerfyrddin), a haws oedd teithio i bob cwr o'r esgobaeth helaeth oddi yno. 

Rhoddwyd caniatâd, felly daeth yr adeilad yn gartref Esgob Tyddewi am dros 400 mlynedd, er i'r Palas gwreiddiol yn Nhyddewi gael ei gadw tan yr 1600au. 

Nid tŷ cyffredin mohono. Roedd yn fan i addoli ac i ddysgu, a chafodd ddylanwad mawr ar fywyd diwylliannol de Cymru am gyfnod helaeth. 
 

Clos yn y canol

Mae'r llun cynharaf sydd gennym o'r Palas yn dyddio o 1750. Mae arolwg manwl o 1713 yn ein helpu i ddeall sut adeilad ydoedd ar y pryd. 

Yn y canol roedd clos mawr agored. Roedd y dyluniad hwn yn adleisio'r clawstrau mewn mynachlogydd ac abatai, a oedd yn gysylltiad â dyddiau cynnar y safle fel coleg crefyddol. Ar y pryd nid oedd adain ddwyreiniol, felly roedd y clos yn wynebu'r hyn sydd bellach yn ganol Parc yr Esgob. 

Fodd bynnag, yn 1801, pan oedd yr Arglwydd George Murray yn Esgob, dechreuwyd ail-lunio'r Palas o'r diwedd. O ganlyniad, symudwyd y brif fynedfa ac ailgyfeiriwyd yr adeilad. Ar ôl marwolaeth yr Esgob Murray yn 1803, daeth y gwaith i ben am 20 mlynedd arall, ond wedyn mae'n ymddangos fod yr Esgob Jenkins wedi cwblhau'r gwaith adnewyddu. Roedd y brif fynedfa yno o hyd, ond codwyd adain ddwyreiniol a tho dros y clos. 

Tân, colled ac adfywiad

Daeth y newid mwyaf dramatig yn 1903, pan gafodd tair o ochrau'r palas eu llosgi'n ulw mewn tân. Dim ond yr adain orllewinol, lle mae'r brif fynedfa heddiw, oroesodd. Diolch i'r drefn, ni chafodd neb niwed. 

Y gred yw bod y tân wedi dechrau yn ystafell wely'r esgob. Nid yw achos y tân erioed wedi cael ei gadarnhau. Penderfynwyd ailadeiladu gan ddefnyddio'r sylfeini gwreiddiol, ond ar gost o hyd at £14,000 - swm enfawr ar y pryd. Arweiniwyd y gwaith gan y pensaer W D Caröe, ac fe'i cwblhawyd yn 1907.

Rhoddodd Caröe do gwydr newydd ar y neuadd ganolog, ond cafodd wared ar giwpola a oedd wedi bodoli ers yr 1700au. Hefyd fe ailaddurnodd y tu mewn i'r adeilad yn arddull ‘Arts and Crafts’, sy'n hynod amlwg yn y Capel, lle mae llawer enghraifft hardd o waith pren cerfiedig. 

Yn ddiweddarach, ysgrifennodd aelod o'r teulu fod y Palas newydd yn teimlo fel gwelliant gwirioneddol. Am y tro cyntaf roedd gan y palas ystafelloedd ymolchi a gwres canolog. 

Y capel – presenoldeb parhaus

Un o’r llefydd pwysicaf yn y Palas yw'r capel. 

Roedd capel yn bendant yn bodoli yma erbyn 1620, ac mae cofnodion o 1713 yn dangos ei fod yn yr un lleoliad bryd hynny â heddiw. Mae hyn yn golygu bod y capel, yn ôl pob tebyg, wedi bod yn y fan hon ers i esgobion ddechrau byw yma. 

Mae lluniau o'r cyfnod cyn y tân yn dangos bod y capel yn edrych yn eithaf gwahanol ar un adeg. Roedd yn llai ac roedd y seddi'n wynebu i gyfeiriad gwahanol. 

Fel cartref Esgob Tyddewi, roedd hon yn ganolfan grefyddol bwysig. Yn ogystal, roedd yn lle hynod arwyddocaol yn ddiwylliannol. 

Tua 1567, dywedir i'r cyfieithiad Cymraeg cyntaf o'r Testament Newydd gael ei gwblhau yma gan William Salesbury, gyda chefnogaeth yr Esgob Richard Davies. Bu'r gwaith hwn o gymorth mawr o ran diogelu dyfodol yr iaith Gymraeg.

Lle i'r bobl

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, daeth y Palas yn hafan. Rhoddwyd lloches yma i deuluoedd o Abertawe a Llundain. 

Bu esgobion yn byw yn y Palas tan yr 1970au. Erbyn hynny nid oedd angen preswylfa mor fawr, felly daethpwyd i gytundeb gyda'r Cyngor Sir ynghylch prynu'r adeilad a rhywfaint o'r tir cyfagos. Codwyd Palas newydd yn ymyl y stablau, ac mae'r Esgob presennol yn dal i fyw yno. 

Troi palas yn amgueddfa

Prynodd y Cyngor Sir yr Hen Balas yn 1974 fel cartref newydd i amgueddfa'r sir. Roedd cartref yr amgueddfa yn Heol y Cei, Caerfyrddin, wedi mynd yn rhy fach. Ar ôl pedair blynedd, agorodd Hen Balas yr Esgob ei ddrysau unwaith eto yn 1978 – y tro hwn fel Amgueddfa Sir Gâr. 

Mae'r Palas wedi parhau i ddatblygu ers hynny. Mae orielau a swyddfeydd wedi'u creu ac mae cyfleusterau i ymwelwyr, fel lifft, wedi'u gosod. Mae gwaith cadwraeth, megis atgyweiriadau sylweddol i'r to yn 2020-22 a gwaith ar y lloriau yn 2026, yn helpu i ddiogelu'r adeilad ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

Heddiw mae Palas yr Hen Esgob yn lle i: 

  • darganfod storïau Sir Gâr
  • mwynhau gwahanol arddangosiadau ac arddangosfeydd 
  • dysgu sut mae'r gorffennol yn llywio pwy ydym ni heddiw

Mae'r adeilad hanesyddol hwn wedi bod yn goleg, yn gartref, yn lloches ac yn amgueddfa. 

Ac mae ei stori'n parhau.